Skip to main content

DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 808. MEHEFIN, 1S89. Cyf. Newydd.—208. ©üí$ffí Eírçaftam, nçu E^ugbìii0n u ^öfanuẃ. GAN Y PAECH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. " A bu pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hyny. Yn y dydd hwnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod âg Abram, gan ddywedyd," &c.—GÉn. xv. 17, 18. Abraham yn ddiddadl yw y niwyaf a'r enwocaf o'r patriarchiaid, a dichon nad gormod fyddai d»veyd mai efe yw y cymeriad ardderchocaf ar y cyfan yn mhlith hoil wroniaid yr Hen Destament. Yr oedd Moses yn ddiau yn gryfach a dysgleiriach ei dalentau nag ef; ond yr oedd Abraham. o'r tu arall, yn rhagori hyd yn nod ar Moses mewn ffydd ac ufudd-dod. Mae ei hanes yn nodedig o ddyddorol ac addysgiadol; ac y mae y Beibl yn rhoddi mwy o le i hanes " tad y ffyddloniaid" nag i hanes holl genedlaethau blaenorol y byd gyda'u gilydd. Yr oedd Abraham wedi ei eni a'i fagu yn mhlith eilunaddolwyr yn Ur y Caldeaid. Ymddengys mai ystyr yr enw Ur yw " Dinas y Lleuad," ac yr oedd y ddinas yn cael ei galw felly am mai yno yr oedd canolbwynt yr add- oliad a delid gan y Caldeaid i " frenhines y nefoedd." Yr ydys wedi cloddio i fyny yn ddiweddar yn y man lle y safai y ddinas rai priddfeini o adfeilion teml y dduwies hòno. Fe fuasai Abraham yn ddiamheu yn byw ac yn marw yn bagan eilunaddolgar yn Ur y Caldeaid fel ei gymydogion o'i am- gylch oni buasai i'r Arglwydd o'i ras a'i drugaredd ddatguddio ei hun iddo, a galw arno i fyned allan oddiyno i'r wlad a ddangosid iddo. Anturiaeth fawr oedd hòno; ac y mae yn rhaid fod Abraham, fel y dengys yr apostol (Heb. xi. 8), yn medda ar ffydd gref cyn y buasai yn gadael ei wlad—yn canu yn iach i lawer o'i geraint a'i gyfeillion—yn wynebu ar daith bell a pheryglus, ac yn myned allan heb wybod i ba le yr oedd efe yn myned. Ond fel y sylwa Matthew Henry, os na wyddai i ba U yr ydoedd yn myned, fe wyddai yn burion gyâo,phivy yr oedd efe yn myned: ac yr oedd ganddo bob ymddiried yn ei Arweinydd. Ond ar ol dyfod i'r wlad a addawsai yr Arglwydd yn etifeddiaeth iddo ni feddyliodd o gwbl am adeiladu dinas ar ryw lanerch iachus a dymunol yno a'i galw yn " Dref Abraham," eithr fe fu byw mewn lluestai, fel dyeithr- ddyn a phererin yn ngwlad yr addewid, gan ddangos trwy hyny nadydoedd yn gwneud ei gartref yno; ond ei fod yn chwenych ac yn ceisio gwlad well, nyny ydyw, un nefol, Heb. xi. 9, 1C. Yn mhen amryw fiynyddau wedi i Abraham ymfudo i wlad Canaan y mae nifer o frenhinoedd cryfaf yr oes hòno yn arwain eu byddinoedd i wneud Ímosodiad ar ddinasoedd y gwastadedd, yn un o ba rai, sef Sodom, yr oedd ŵt, nai Abraham, ar y pryd yn preswylio. Pan glywodd Abraham y newydd blin fod Lot a'i deulu wedi eu cymeryd yn garcharorion rhyfel, a'u medd-