Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr ünwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—806. EBRILL, 1889. Cyf. Newydd.—206. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. " Ae angel yr Arglwydd aalwodd arnoef o'r nefoedd, ac addywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo, o herwydd gwn weithian i ti ofni Dnw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddiwrthyf fi."—Gen. xxii. 11, 12. Mae y brofedigaeth danlìyd y galwyd ar Abraham i fyned drwyddi, wrth orchymyn iddo aberthu Isaac, yn sefyll ar ei phen ei hun yn mysg profedig- aethau y saint—yn debyg i íynydd cribog yn dyrchafu ei gopa gwyn i'r entrych yn mhell uwchlaw yr holl fynyddoedd eraill o'i amgyleh. Ac fe ellir edryeh ar Abraham yn ei ufudd-dod i'r gorchymyn caled hwn a gafodd, fel dringiedydd dewr yn llwyddo i ddringo llethrau serth a pheryglus y mynydd ysgythrog hwnw, trwy yr eira a'r ia oesol, ac yn ngwyneb gwynt- oedd cryfion, i glogwyn uwch nag y sangodd troed neb arall o wroniaid y ffydd arno erioed. Mae yn ymddangos yn dra rhyfedd, yn enwedig ar yr olwg gyntaf, i'r Duw da geisio gan dad tyner ladd ei blentyn ufudd a diniwed. Yn wir, y mae hyn yn beth mor anhygoel yn ngolwg rhai dynion mawr a da, yn y wlad hon a gwledydd eraill, fel y maent yn methu credu i'r fath orchymyn ddyfod erioed oddiwrth Dduw, am y byddai credu, hyny, yn ol eu tyb hwy, yn tueddu i gymylu ei ogoniant. Llawer ymgais gywrain a wnaed, gan hyny, o bryd i bryd, i geisio esbonio y gorchymyn ymaith, trwy roddi rhyw ystyr iddo heblaw ei ystyr syml, naturiol a llythyr- enol. Ni chaniata gofod i ni yma gymaint a chrybwyll y gwahanol esbon- iadau dyeithrol a gynygir ar yr amgylchiad gan y rhai na fynant dderbyn y bennod fel hanes syml a llythyrenol. Ond gallwn grybwyll, fel enghraifft, fod rhai yn barnu mai Ireuddwydio a wnaeth Abraham, ryw noson, iddo gael gorchymyn o'r nef i aberthu Isaac, ac i'r breuddwyd gael y fath effaith arno nes peri iddo greàufod Duw wedi llefaru wrtho mewn gwirionedd, ac felly, iddo mewn amryfusedd a chamgymeriad, barotoi i gyflawni y weithred, ond i*r Arglwydd, ar y foment ddiweddaf, ei atal i roddi y bwriad mewn gweith- rediad. Ond o'n rhan ein hunain, yr ydym yn cydolygu yn hollol â'r meddyliwr treiddgraff a'r Uenor enwog Henry Rogers, pan y dywed fod yr hoJl esboniadau sydd yn ceisio gwneud i ffwrdd ag ystyr lythyrenol y geiriau tra yn symud un anhawsdra, yn arwain, ar yr un pryd, yn anocheladwy, i luaws o anhawsderau eraill llawer mwy. Mae yn ymddangos i ni yn sicr a diamheuol fod y bennod i'w chymeryd fel hanes llythyrenol; ac y mae hi yn dangos yn y modd mwyaf eglur a diamwys y gallai geiriau wneud hyny, fod Duw wedi gorchymyn mewn gwirionedd i Abraham aberthu Isaac, ac w^i ei gymeradwyo hefyd am y parodrwydd a ddangosodd i ufuddhau i'r