Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—805. MAWRTH, 1889. Cyf. Newydd.—205. GAN PROFFESWR LLOYD, M.A., PRIFYSGOL ABERYSTWYTH. Fe gofir, hwyrach, i ychydig sylwadau ar y testun uchod yinddangos yn y Dysgedydd oddeutu blwyddyn a haner yn ol.. Mwy priodol, efallai, fuasai eu galw yn sylwadau arweiniol i'r testun nag yn sylwadau ar y testun, a'r bwriad ar y pryd oedd i chwanegu yn fuan atynt mewn rhifyn dyfodol. Ond, fel y dygwydd yn rhy gyffredin gyda'r bwriadau lawer sydd yn nghalon dyn, cododd rhwystr ar ol rhwystr i atal i'r amcan hwnw gael ei gyfíawni. Gadawyd yr ysgrif gyntaf heb gyinhares, a hyd yn nod heb awgrym fod dim arall i'w dilyn, nes peri syndod i rai, yr wyf yn sicr, fy mod yn darfod mor swta, a chenyf y fath destun eang a dyddorol. Ond dyma fi yn awr yn ceisio ail ymaflyd yn llinyn yr ymresymiad, neu (os caf newid y ffugr ar ganol brawddeg fel hyn) yn cynyg ail gychwyn y cloc sydd wedi bod gyhyd o amser yn sefyll, a pheidied neb a rhyíeddu os bydd yr olwynion dipyn yn rhydlyd a hwyrfrydig i droi. Mae'r cloc, wrth gwrs, yn ail ddechreu tician yn union lle y safodd, ac felly finau. Nid wyf am 'ragymadroddi dim y tro yma; os oes rhyw ddarllcnydd ymchwilgar am ddechreu yn y dechreu, bydded mor garedig a thynu y Dysgedydd am 1887 i lawr o'r astell (y mae yno, wrth gwrs, wedi ei rwymo yn weddus), a thröed at rifyn Awst—caiff ynofwy na digon o ragymadrodd. I mi fod yn hollol deg â mi fy hun, gosodais un gwirion- edd i lawr yn ychwanegol at y rhagymadrodd, sef mai ufudd-dod i'r wlad- wriaeth ydyw'r brif wers wleidyddol a ddysgir yn y Testament Newydd, ond, er ymhelaethu ychydig ar y pen yma, ni ddywedais ddim am y terfyn- au priodol i'r ufudd-dod hwnw, chwaethach son am ddyledswyddau gwleid- yddol eraill gymhellir gan y grefydd Gristionogol. Erys y pynciau hyn felly yn faes i mi y tro yma. 1. Y terfynau priodol i ufndd-dod gwleidyddol. Nid oes neb yn ei bwyll na chydnabydda yn rhwydd mai ufudd-dod ydyw dyledswydd flaenaf pob aelod o wladwriaeth; mewn cyfnodau tawel, dan amgylchiadau cyffredin, dyîai pob dyn barchu deddfau ei wlad, ac ufuddhau i'r awdurdodau goruchel. Heb fod hyny yn bod i raddau helaeth iawn, nis gall na gwlad na gwleid- yddiaeth fodoli o gwbl; os nad oes ufudd-dod ar ran y deiliaid y mae'r llywodraeth yn ddiryra, pob deddf yn ffiloreg, a gallu'r cryfaf yn unig awdurdod yn y tir. Wrth anog i ufudd-dod felly, nid yw Cristionogaeth yn gwneud dim ond afcegn deddfau naturiol cymdeifchas, yn gyson â'i