Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGBDTDD: A'R HWN YR UNWYD YR "ANNIBYNWR." Hen Gyf.—804. CHWEFROR, 1889. Cyf. Newydd.—204. Enfa^oalb^íî grç dmatîr, GAN Y PARCH. T. MORRIS, DOWLAIS. Yn yr ysgrythyrau gosodir dyn allan yn ei berbliynas â'r daearol a'r darfod- edig, ac yn ei berthynas â'r dwyfol a'r itragwyddol—un ran o'r ddaear yn ddaearol, a'r rhan arall o Dduw, ac yn ysbrydol. Siaredir am ddyn yn gyffredin fel yn cael ei wneud i fyny o ddwy ran—corff ac enaid; ac y mae yr hen ddosraniad hwn yn ateb i ddosraniad y greadigaeth i ddwy ran— mater ac ysbryd. Y mae y cydgyfarfyddiad hwn a geir mewn dyn wedi peri llawer o ddyryswch i feddyliau ymchwilgar drwy yr oesoedd. Un anhawsder ydyw penderfynu haniad yr enaid. Anhawsder arall yw pen- derfynu ei berthynas â'r corff. Cynygiwyd tair damcaniaeth i gyfrif am haniad yr enaid fel y ceir ef yn mhob dyn ar wahan—Rhaghanfodiad, Creadigaeth uniongyrchol, a Chenedl- iad. Ychydig bleidwyr a gaed yn mhlith Cristionogion i'r syniad o rag- hanfodiad. Y ddwy ddamcaniaeth a gawsant dderbyniad helaeth, ac a fuont drwy yr oesoedd yn ymryson am oruchafiaeth ydynt y ddwy eraill, y ddamcaniaeth fod pob enaid yn greadigaeth uniongyrchol o eiddo Duw, a'r ddamcaniaeth fod enaid pob dyn fel ei gorff yn cael ei gynyrchu drwy gen- edliad. Gelwir y ddamcaniaeth fyn edrych ar bob enaid fel creadigaeth union- gyrchol yn ddamcaniaeth gymysg, am y gesyd Dduw allan yn crëu eneidiau yn feunyddiol, tra mai un weithred greadigol sydd yn cyfrif am ddygiad i fodolaeth y rhan faterol o bob dyn. Yn oí y syniad hwn, crewyd y rhan faterol o ddynoliaeth yn Adda, a chynyrchir ein cyrff o hono ef drwy genedliad, ond daw ein heneidiau i ni oddiwrth Dduw mor uniongyrchol ag y daeth ei enaid i Adda oddiwrtho. Yr wrthddadl fawr yn erbyn y syniad hwn ydy w y cyflwr o lygredigaetli y mae pob dyn ynddo wrth naturiaeth. Cynwysa y drydedd ddamcaniaeth— damcaniaeth y Cenedliad—fod enaid yn ogystal a chorff pob dyn a ddaeth i'r byd ar ol Adda, yn genedledig. Yn Adda ynunig y mae yr enaid fely corff yn grëedig; eenedledig ydynt yn mhawb eraill. Cyfrifa hyn am burdeb cychwynol Adda, ac ar yr un pryd am lygredigaeth pawb o'i hiliogaeth mewn canlyniad i'w gwymp. Yn Adda cawn ewyllys i gyfrif am ein llygredigaeth ar wahan i ewyllys Duw, ac yn groes iddi. Yr unig ddadl o bwys a ddygwyd yn erbyn y syniad o genedliad eneidiau ydyw yr anhawsder i'w ddal heb ymgolli mewn materol- iaeth. Haerir fod y syniad o enaid cenedledig yn cynwys ei fod yn faterol. Gofynir pa fodd y gellir cynyrchu y rhan ysbrydol o ddyn drwy genedliad? Llawer mwy priodol yw gofyn, pa fodd y gall bod sydd yn gyfuniad o'r materol a'r ysbrydol, os yw i genedlu o gwbl, lai na chenedlu ei ryw? Yn