Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN \r UNWYD YR " ANNIBYNWR." Hen Gyf.—803. IONAWR, 1889. Cyf. Newydd.-203. GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. " A'r rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys * * * cynorthwyau." Mae yr yinadrodd, " Cynorthwyon y Pulpnd," ar unwaith yn awgrymu mawredd a phwysigrwydd gwaith y weinidogaeth; ac nid oes yr un gweini- dog ystyriol nad ydyw, mewn pryder, wedi gofyn lawer gwaith, " A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" Ond nid â mawredd a phwysigrwydd y gwaith y mae a fynom yn awr, ond â'r cynorthwyon gofynol er ei gyflawni. Cyfyngir ni hefyd at gynorthwyon y pulpud. Mae i'r weinidogaeth gylch- oedd eraill, ac y mae yn rhaid i'r gweinidog wrth gynorthwyon ynddynt oll; ond cynorthwyon y pulpud sydd genym heddyw—y cynorthwyon angen- rheidiol arno fel pregethwr. Yr oedd " cynorthwyau" yn ddawn arbenig, os nad yn swyddogaeth yn yr eglwysi cyntefig. " A'r rhai yn wir a osododd Duw yn ei eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail prophwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hyny doniau i iachâu, cynorthwyau." Anhawdd, hwyrach, penderfynu i sicrwydd beth oedd y " cynortbwyau " hyn. Bernir gan rai mai yr un oeddynt ag "amryw dafodau," neu " gyf- ieithiad tafodau," a'i fod yn golygu y cynorthwy hwnw a roddid i'r rhai a glywent y tafodau dyeithr i'w deall yn well. Rhyw rai i gario yn mhellach, ac i egluro yn fanylach yr hyn a draethid. Coachers i helpu ysgolorion hwyrfrydig. " Cynorthwyau," swyddogaeth wir angenrheidiol yn yr eglwys yn ein dyddiau ni. Mewn trefn i ymdrin â'r mater yma, ceisiwn ddosbarthu y cynorthwyon angenrheidiol ar y pulpud, a chymerwn i ddechreu yr hyn a alwn, o ddiffyg enw gwell— Cynorthwyon llenyddol y pulpüd, neu gyuorthwyon y fyfyrgell. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol fod y pregethwr yn parotoi ei bregeth, ac nid ymddiried y rhoddir iddo yn yr awr hòno. "Adnod erbyn y chwarter sessiwn oedd hòno," meddai yr hen John Evans o'r Bala. "Chwiliodd y pregethwr am eiriau cymeradwy," pa faint mwy am feddyliau teilwng. Anmharch ar y pulpud, a sarhad ar y gwrandawyr, ydyw i un esgyn uwchben cynulleidfa heb ragfyfyrio pa betli a ddywed. Nis gellir dysgwyl bod yr un faint o barotoad bob amser, ac nid rhaid i bob un wrth yr un faint o barotoad; ond dylai pob un bob ainser wybod y genadwri sydd ganddo i'w chyflwyno, a pha wedd y bwriada ei gosod gerbron. Mae rhai, oblegid y cyflawnder o * Darllenwyd y papyr uchod yn nghyfarfod gweinidogion Cymreig Liverpool, yn Grove Street, ddydd Llun, Tachwedd 5, 1888, a chyhoeddir ef ar gais unoì a gwres- og y cyfarfod hwnw.