Skip to main content

Y DTSGEDIDD: a'r hwn yr unwyd ,£yr annibynwr." Hen Gyf.—801. TACHWEDD, 1888. Cyf. Newydd—201. ©tt- HDtUiam Htorçgan a'r &t\ibl üTgmíîarg. GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. Tri chan' mlynedd i eleni y dygwyd allan yr argraffiad cyntaf o'r Beibl Cyinraeg. Dyma, yn sicr, y dygwyddiad pwysicaf yn hanes ein gwlad; a Dr. Williain Morgan, o bawb, a fu cymwynaswr mwyaf ein cenedl. Ni oddef ein terfynau i ni gymeryd golwg ar gyflwr Oymru, yn foesol a medd- yliol, yn y cyfnodhwnw; oud os oes rhyw werth mewn ífeithiau hanesyddol, nifl oes dim yn eglurach na bod " tywyllwch yn gorchuddio y ddaear, a'r fagddu y bobloedd "—yn ein gwlad ar y pryd. Nid oedd dim a'm synodd yn fwy yn araeth benigamp yr hen arwr Mr. Gladstone, yn Eisteddfod Gwrecsam, na'r haeriad a wnaeth, na bu y Cymry erioed yn genedl ddi- grefydd, ac nad oedd yn credu dim o'r hyn a ddywedir am sefyllfa foesol y wlad yn y cyfnod cyn cychwyniad Anghydffurfìaeth. Ni buasem yn dys- gwyl i'w syniadau uchel Eglwysig ei gario mor bell, nes peri iddo anwyb- yddu ffeithiau sydd mor amlwg debygem; ac os oes rhywbeth wedi ei gael allan, sydd yn profì mai camarweiniol ydyw yr holl dystiolaethau ar y rhai yr ydym wedi arfer pwyso, teg ydy w eu cael allan i oleuni. Yn ol fel yr ydym ni wedi darllen hanesiaeth am gyflwr ein gwlad dri chan' mlynedd yn ol, yr oedd corff ein cenedl yn gorwedd mewn anwybodaeth ac ofergoeledd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb, heb fawr gwahaniaeth rhwng offeiriad a phobl, bonheddig a gwreng; a fynychaf " cyfarwyddwyr y bobl oedd yn peri iddynt gyfeiliorni " Nid ydyw hyn ychwaith mewn un modd yn rhyfedd, pan gofiom yr amddifadrwydd hollol oedd o air Duw yn y wlad; ac anwybodaeth dygn, yn gystal ac anghrefyddolder llwyr, y rhai oeddynt wedi eu gosod yn ddysgawdwyr cyflogedig y bobl. Mae hanes dyfodiad cyntaf yr efengyl i'n gwlad, a chyfieithiad y rhanau cyntaf o air Duw i'n hiaith, yn gylchynedig â ílawer iawn o niwl a thy- wyllwch. Nid oes diffyg wedi bod mewn dyfaliadau, ond prin iawn yw y ffeithiau; ac er mor lluosog yw y traddodiadau, nid yw adeiladu hanesiaeth ar draddodiadau yn ddim amgen nag adeiladu ty ar y tywod. Mor foreu a'r flwyddyn 1768, cyhoeddodd Dr. Tìiomas Llewelyn gyfrol yn yr hon y ceir hanes Ued helaeth o gyflwr y wlad yn yr adeg y gwnaed y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r holl Feibl; yr anhawsderau oedd ar ffordd gwneud y gwaith; y modd y cwblhawyd yr amcan o'r diwedd, yn gystal a'r gwahanol argraífiadau ,a wnaed o hono, hyd yr amser yr oedd ef yn ysgrifenu. Un genedigol o Gelligaer, yn sir Forganwg, oedd Dr. Llewelyn, ac aelod gwreiddiol yn Hengoed—aeth i Lundain, lle y bu yn athraw er parotoi gwŷr ieuainc i'r weinidogaeth yn mysg y Bedyddwyr; graddiwyd ef yn Ll. D. gan brifysgol Aberdeen. Dychwelodd i Gymru, lle y bu farw yn 1783. Nid llawer o ffeithiau newyddion y mae neb wedi dyfod o hyd 2h