Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 800. HYDREF, 1888. Cyf. Newydd—200. NEU RAI O'R GWRTHDDADLEUON A GODIR YN EI ERBYN. YSGRIF I. GAN Y PARCH. E. CYNFFIG DAVIES, B.A. Nid llawer mewn cymhariaeth sydd wedi ei ysgrifenu ar y berthynas a fodola rhwng Moesddysg a Duwinyddiaeth, a hyny mewn rhan am fod Athroniaeth Foesol wedi bod i fesur mawr o dan ymdriniad gan ddosbarth galluog o athronwyr na roddant bwys neillduol ar grefydd ddatguddiedig a'r Beibl. Diau hefyd fod peth o'r pellder rhwng duwinyddiaeth a moesddysg yn cyfodi o'r ffaith fod athrawon boreuaf y byd, ac ar lawer ystyr athrawon nynotaf yr oesau, yn perthyn i genedloedd paganaidd, megys Plato yn ei Republic, &c, a'i ddysgybl diail ar ol hyny yn ei Foesddysg, a ysgrifenwyd ganddo ar enw ei fab Nicomachus. Canlynwr iddynt hwy drachefu oedd yr areithiwr a'r athronydd Cicero yn ei draethawd Ar Ddyìedswydd—De Officiis; a gellir dweyd am yr areithiwr Rhufeinig heb y gradd lleiaf o ddiraddiad arno ei fod yn ei Foesddysg yn fwy o esboniwr goleu ar gyfun- drefnau y Groegiaid nag o gynllunydd meddylddrychau o'i eiddo ei hun. Cwynir gan rai o'r meddylwyr diweddaraf, megys yr enwog Dugald Stewart, oblegid y ffaith fod athronwyr moesol yr oesau yn cymeryd eu cyfyngu i dermau a dosraniadau Cicero, yr hwn a íiodeuai cyn Crist, ac a ddienydd- iwyd yn ddialgar, Rhagfyr, 43 c.c. Hwyrach fod y gẃyn hon o eiddo Dugald Stewsfft yn fwy o esgusawd na dim arall dros ei waith ef ei hun yn ymlynu wrth rai o brif syniadau yr hen athronydd Rhufeinig. Pan gofiom y pethau hyn a ffeithiau cyffelyb, nid ydym yn synu cymaint fod Moesddysg yn fynych yn rhedeg ar hnellau mor bell oddiwrth grefydd ddatguddiedig, tra y dylent redeg yn gyfochrog os nad ar yr un Uinell. Dywed Dr. Wardlaw: * " Y mae crefydd naturiol a moesoldeb, y naill fel y llall, yn perthyn i diriogaeth duwinyddiaeth. Ac nid yn unig nis gall fod gwir foesoldeb heb grefydd, ond y mae dysgu rhinweddau moesol i greaduriaid pechadurus oddiar seiliau annibynol i drugaredd ddatguddiedig yr efengyl yn agor mynedfa i'r geudeb mwyaf gwrthysgrythyrol ac enaid-ddamniol. Nis gallaf gymeryd safle is na hon heb werthu fy Meibl.........yr wyf yn ei osod i lawr gyda sicrwydd egwyddor hunanbrofiadol—aaẁmatic principle— nas gall datguddiad dwyfol a gwir athroniaeth byth fod yn groes i'w gilydd." ♦ ChristianEthics. Lect. I. & Note B. 2 E