Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—799. MEDI, 1888. Cyf. Newydd—199. WLv$-l%tt$m 3fahir gr 8£*paçtt. (THE SPANISH ARMADA.) GAN Y PARCH. HENRY OLIVER, B. A., BRISTOL. Mae y flwyddyn hon yn dwyn ar gof y waredigaeth ryfeddaf yn hanes Prydain Fawr, sef dinystr yr ik Armada" yn 1588: ac y mae y wasg Seisnig mewn amryfal ffurf yn arllwys allan ei chynyrchion er dathlu y fuddugoliaeth. Yr ydym wedi darllen llawer o honynt; ond hyd y gwelsom, Americanwr, Mr. Motley, yn ei "Hìstory of the United Netherlanäs" sydd wedi rhoddi yr hanes cyflawnaf a chywiraf. Yr oedd ei sefyllfa fel llys- genadwr dros Unol Dalaethau America, yn rhoddi iddo agoriad i gofysgiifau yr Yspaen, a Holland, a Belgium; ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â phrif ieithoedd y Cyfandir yn ei alìuogi i wneud y defnydd goreu o'i gyfleusderau. Mae gwaredigaethau yr Arglwydd yn bethau i'w cofio. Hanes gwared- igaethan yw y Beibl o'r dechreu i'r diwedd, ac ymae ynllawn o gymhellion i gofio, ac o rybuddion rhag anghofio. Sefydlwyd y Pasc yn Israel fel coffadwriaeth barhaus o'r waredigaeth o'r Aipht; ac un o'r pethau prydferthaf yn Llyfr y Salmau ydyw y därluniad o'r dychweliad o gaethiwed Babilon. Er pellder y daith ac amlder y peryglon. yr oedd y * dychweliad yn fath o wledd-orymdaith trwy holl gydol y ffordd. Llenwid eu genau â chanu, a'u tafod â chwerthin; ac yr oedd eu llawenydd mor gynhyrfus nes tynu sylw y cenedloedd, a pberi iddynt uno yn y lyrdtüii, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac am hyny yr ydym yn llawen." Mae yr Arglwydd yn wastad yn cyfaddasu ei gymhorth at fesur angen ei bobl. Nid yw yn gwneuthur erddynt yr hyn a aL'ant hwy wneuthur drostynt eu hunain, ac o ganlyniad y mae ei gyfryngiad yn fwy amlwg ar rai adegau na'u gilydd. Ond y mae Efe yn ddiorphwys yn ei ofal a'i amddiffyn. Mae yn hollbresenol yn mèiob cyfnod o amser yn gystal ag yn mhob parth o'rgreadigaeth. Can wired a!i fod wedi gweithredu gynt, y mae yn gweithredu yn awr. Mae yn bwysig i ni, nid yn unig i gofio ei weithred- iadau yn yr oesoedd a fû, ond i deimlo ei foè erioed a byth yn Dduw byw. Peth digon cỳffredin ydyw gweled dynion gyda dynesiad henaint, ac o dan faich oedran, yn ymddeol oddiwrth ofalon masnach; ond anaml y bydd neb o'u gwirfodd yn ymneillduo oddiwrth awdurdod a rhwysg, a chyfoeth. Parodd ymddygiad Charles v., Ymerawdwr Germany a brenin yr Yspaen, syndod nid bychan i'r byd, pan yn anterth ei lwyddiant y disgynodd o'r orsedd, ac yr ymneillduodd i fynadidy St. Just, vn y flwyddyn 1557. Gadawodd i'w fab Philip y frenhiniaeth gadarnaf a chyfoethocaf yn y byd. Petti anhawdd yw dirnad maint y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn % 2B