Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y D YSlGfED YDD : a'e hwn yr unwy» ì"ye annibynwe." Hen Gyf,—798. AWST, 1888. Cyf. Newydd-198. (Anerchiad a draddodwyd o Gadair yr Undeo Cynulleidfaol Cymreiff yn Tonypandy, Gorphenaf 4, 1888.) GAN Y PARCH. P. HOWELL, FFESTINfÓG. ANWYL Frodyr,— Nid oes neb o honoch, ond odid, yn dysgwyl i mi wneud unrhyw ymddi- heurad dros ymddangos ger eich bron ar yr achlysur presenol. Yr wyf yma mewn ufudd-dod i'ch galwad chwi, ac yn teimlo fod genyi' ryw fafch o hawl i ddysgwyl am eich cydymdeimlad. Er hyny, nid heb lawer o bryder, a graddau o arswyd, yr wyf wedi gallu edrych yn mlaen afc y cynulliad pwysig hwn, a meddwl am y rhan amlwg y dysgwyhd i mi ei chymeryd yn ei weifchrediadau. Nis gallwn lai na meddwl yn fynych am y gwŷr grymus a fuonfc yn llenwi y safle yr wyf ynddi, y naill flwyddyn ar ol y llall, er dechreuad yr Undeb; ac ofnwn yn fynych nas gallwn wneud dim fyddai yn deilwng o'r safle a lanwyd mor anrbydeddus ganddynfc hwy. Byddaf yn gallu dweyd ar ol i hyn fyned heibio, " A mi a fum yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr, a'm hymadrodd i, a'm pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol;" a byddai yn dda iawn genyf allu ychwanegu, " ond yn eglnrhad yr Ysbryd a nerth." Gallaf ddweyd ynngeiriau y Preg- efchwr gynfc, "Chwüiodd y pregefchwr am eiriau cymeradwy;" a chewch chwi farnu pa mor bell y bydd y rhan arall o'r adnod yn briodol am yr hyn a draefchir genyf heddyw: "A'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd." Y mater y bwriadaf alw eich sylw ato yw,— AWDURDOD CRIST YN EI EGLWYS: gan obeithio, beth bynag fydd eich barn ar yr hyn a draethir arno, y bydd i'r mater ei hun fod yn gymeradwy yn eich golwg fel un teilwng o ystyr- iaethau mwyaf difrifol cynulleidfa o bobl sydd yn proffesu bod yn ddeiliaid i Grist Iesu yr Arglwydd. Bu llawer o son yn ein mysg, yn ystod y blynyddoedd diweddaf, am rydd- id eglwysig, annibyniaeth eglwysig, cydraddoldeb eglwysig, a chwestiynau cyffelyb sydd yn dwyn perthynas â ni fel eglwysi, ac aelodau eglwysig. O'm rhan fy hun, nid wyf yn teimlo unrhyw duedd i gwyno oblegid hyny. Y mae yn eithaf posibl fod llawer cri ddigon disail wedi ei chodi; llawer drychiolaeth ddigon disylwedd wedi ei galw allan er dychryn i bobl weiniaid; llawer o ymladd trystfawr wedi bod â gelynion dychymygol; a llawer o ergydion brwd wedi eu gwastraffu ar wŷr gwellt; ond ar yr un pryd y mae