Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—796. MEHEFIN, 1888. Cyf. Newydd—196. €itt $ftc(í00imt <&toittiaiîi a'rç ^fog» tfu CötttnifíìHîaa. G A N Y PAECH. D. JOHNS, RUTHYN. (Papyr a ddarllenwyd yn Nghynadledd Cyfarfod Chwarterol Dinhych a Fflint yn Brynteg, Ionawr lleg, 1888.) EIN HACHOSION GWEINIAID. Y mae gwahanol fathau o achosion gweiniaid. Ceir achosion gweiniaid a fnont unwaith yn gryfion trwy fod amgylchiadau yr ardal wedi cyfnewid, y gwaith yn sefyll, iselder masnachol yn peri i ddynion adael y lle, Ceir hefyd achosion gweiniaid na fuont erioed yn gryfion, nac niewn gobaith i ddyfod, eto yn wir deilwng o gael eu cynorthwyo. Y mae ambell achos yn wan am ei fod yn achos newydd, heb gael amser i ymddadblygu, a magu nerth. Ceir hefyd, mewn manau, achosion gweiniaid lle na ddylent fod— anghydfod yn rhanu eglwysi oedd yn rhy fychain i'w rhanu, nes gwncud dau neu dri o achosion gweiniaid mewn lleoedd bychain, lle y byddai un achos yn Uawn digon, a gwell na rhagor. Y cynorthwy goreu i'r achosion hyn fyddai eu cael i gladdu yr anghydfod, a myned yn ol at eu gilydd yn un fel cynt, neu gydweithio yn un. Os bydd y rhwystr yn parhau ar ffordd eu hundeb dylid ei symud—gwell, os bydd raid, i daflu Jonah i'r môr, na pheryglu dirgelwch y llong a'r holí ddwylaw. Hefyd ymae gor-sel enwadol wedi gwneud achosion gweiniaid lle na ddylent fod. Pob enwad yn mynu addoldy iddo ei hun mewn pentref bychan, neu ardal deneu ei phoblogaeth, ac felly cael tri neu bedwar o addoldai, líe byddai un neu ddau yn llawn digon ar gyfer yr holl drigolion, a'r rhai hyny heb fod yn fawrion iawn. Weithiau cychwynir achos newydd gan enwad mewn Ue a fyddo eisoes wedi ei lwyr feddianu, heb ddim yn galw am hyny ond sel enwadol. Ni hoffwn ddweyd dim yn erbyn sel enwadol, gall fod yn symbyliad i weithgarwch, ond dylid ei chadw o fewn terfynau priodol, yn neillduol mewn perthynas â'n hachosion gweiniaid, rhag eu lluosogi yn ddiangenrhaid. Y mae y cyfwng presenol ar ein gwlad yn galw yn uchel ar Ymneilldu- wyr Cymru i ddeaíl eu gilydd, ac i fod yn unol. Credwn y gallai yr enwadau crefyddol wneud llawer o les i'w gilydd, ac i achos crefydd mewn Uawer ardal trwy ddyfod i gyd-ddealltwriaeth i uno eu hachosion gweiniaid yn un gynulleidfa. Gwneir hyn mewn rjiai lleoedd. Buom yn pregethu i gynulleidfa gymysg felly, a theimlem " înor ddaionus, ac mor hyfryd oedd trigo o frodyr yn nghyd." Pe b'ai y gynulleidfa undebol hòno yn ymranu yn ddwy neu dair o gynulleidfaoedd bychain—pob euwad a'i gapel ei hun, byddai y naill yn niweidio y llall, ac mewn perygl o wneud niwed i grefydd, trwy fagu ysbryd plaid. Ond wrth gydaddoli yn yr un adeilad y maent