Skip to main content

Y DYSGE.DYDD: a'r hwn yr ttnwyd " y% annibynwr." Hen Gyf.—795. MAI, 1888. Cyf. Newydd—195. Cfortamt % ^gfítUtaír <&nmviz\%. DROS Y GYFEILLACH GYMREIG. GAN Y PARCH. J. CHARLES, CROESOSWALLT. Wrth ymgymeryd â dadleu dros y gyfeillach yn hytrach na'r cyfarfod eglwysig Seisonig, goddefer i ni ddweyd ar unwaith mai pell y'm o gydolygu â'r rhai sydd yn dyrchafu pob peth Cymreig hyd y nef, ac yn tynu i lawr bob peth Seisonig hyd y ddaear, os nad yn is na hyny. Na, y mae gan y Cymry eu diffygion mewn pethau crefyddol fel mewn pethau eraill, a cheir rhagoriaethau yn mhlith y Saeson. Gwelsom adroddiad rhai o brif eglwysi ein brodyr y Saeson, ac yr oedd yr organisation yn ymylu ar fod yn bér- ffaith. Nid ydym yn credu fod hyn yn wir am ein heglwysi yn gyffredinol; ond, fel y ceir yn mhlith y Saeson rat personau gweithgar, haelionus, a gwir grefyddol, felly hefyd y gwelir fod yn eu plith rai eglwysi yn gwneud gwaith rhagorol, ond credwn fod yr eglwysi a'r crefyddwyr Cymreig, a'u cymeryd gyda'u gilydd, yn rhagori. >Vrth ystyried y gyfeillach fel y cy- nelir hi yn awr yn lled gyffredinol, nid yw ond un o lawer o sefydliadau a ddylai fod yn perthyn i bob eglwys. Credem y dylai fod yn nglŷn â phob eglwys—(1) Dosbarth neu gyfarfod i'r plant i'w dysgu yn drwyadl mewn catecism syml; (2) Dosbarth i egwyddori y rhai sydd mewn oedran i'w derbyn yn aelodau eglwysig, a'u dysgu yn fwriadol ar gyfer hyn, yn nghylch dyben yr ordinhadau, swyddau cyfryngol Crist, dyledswyddau aelodau eglwysig, &c.; (8) Dosbarth Beiblaidd, neu Gymdeithas i'r Gw)7rleuainc; (4) Cymdeithas Dorcas i'r gwragedd a'r merched, neu ryw drefn arall, trwy yr hon y gallant arfer eu gweithgarwch, a gosod mewn ymarferiad eu dylan- wad tyner, grasol, a da, er lles yr eglwys, ac er dyrchafiad cymdeithas. Y gwir yw, ac ofer celu y ffaith, mai liauerog iawn, ar y goreu, y gweithir allan egwyddorion crefydd Iesu o Nazareth yn ein plith. Pe cawsai dysg- eidiaeth Iesu chwareu teg, m fuasai lle i ddynaddolwyr (positii'ists) a socialistiaid i osod eu troed i lawr yn ein gwlad. Mae yr awgrymiadau uchod, ac eraill a allesid enwi, i'w hystyried nid yn lle y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach, ond yn ychwanegol atynt. Gellid gwneud rhan o'r gwaith a nodwyd, a gwneir hyny yn awr mewnllawer eglwys, yn y gyfeillach; ym- ddibyna hyny ar amgylchiadau ac ar sefyllfa yr eglwysi. Mae Uawer o'r Saeson eisoes wedi rhoddi heibio y cwrdd gweddi, a chlywir peth sibrwd yn mhlith rhai o'r Cymry am y priodoldeb o wneud yr un peth. Beth sydd yn cyfrif am hyn? A ydyw y ffaith fod rhai o ddysg- awdwyr yr oes yn gwadu effaith gweddi gyda Duw yn dylanwadu yn ddys- taw ar yr eglwysi? Ymffrostia rhai o bapyrau crefyddol (?) Llundain yn fynych yn y ffaith nad yw esgob Manchester ddim yu gweddio am wlaw.