Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yb unwyd "tr ANNIBYNWR." Hen Gyf.—791.] IONAWR, 1888. [Cyf. Newydd—101. GAN Y PARCH. J. MORRIS, D.D., COLEG ABERHONDDF; Yr ydym wedi darllen Uawer yn y newyddiaduron yn ddiweddar âm y ddadl dan sylw—" The Down-Grade" fel y gelwirJtti yn Saesoneg. Erthygl o eiddo y bydenwog Spurgeon yn y Sword and Trowel ydyw pwnç yr ym- ryson. Amcan yr erthygl ydyw dangos fod y weinidogaeth yn mhlith y Bedyddwyr, ac yn neilldnol yn mhlith yr Annibynwvr, yn colli ei gafael ar wirioneddau sylfaenol y ffydd, ac yn cyhoeddi cyfeihornadau dinystriol yn nghylch yr ysgrythyrau, aberth Crist, person a gwaith yr Ysbryd Glan, a sefyllfa'r annuwiol yn y byd a ddaw. Dysgwylid y buasai Undeb y Bed- yddwyr yn Sheffield yn cymeryd sylw o gyhuddiad difrifol Spurgeon, ac yn mabwysiadu rhyw drefn i amddiffyn purdeb y frawdoliaeth. Ond ni wnaeth y cynulliad hwnw un cyfeiriad at y pwnçj ac o ganlyniad torodd Spurgeon ei gysylltiad â'r Undeb, ac y mae amryw *weinidogion eraill wedi gwneud yr un peth. Y mae nifer fawr o ddynion blaenaf y ddau enwad wedi cymeryd rhan yn y ddadl—rhai yn cydymdeimlo â Mr. Spurgeon, ond y mwyafrif yn ei wrth- wynebu yn llym. Haera y gwrthwynebwyr fod y ddau enwad, ar y cyfan, o ran sylwedd yn iach yn y ffydd, ac hyd jn nod yn fwy felly na'r genedl- aeth o'r blaen, er eu bod yn gosod allan yr hen wirioneddau mewn ffurf newydd. Heb gymeryd arnaf i benderfynu y ddadl frwd hon, yr wyf yn cynyg dau sylw mewn cysylltiad â'r pwnc. 1. Fodprif bynciau y ffydd yn cael lìai o le yn mhregefhau'r oes hon nag oeddent yn arfergael chwcrter canrif yn oL Nid yn fynych y pregethir yn awr ar Iawn Crist, cyfiawnhad yr euog, ac ailenedigaeth. Ni anghredir feallai y gwirioneddau hyn, ond esgeulusir hwynt. Caniateir cymaint a hyn gan wrthwynebwyr Spurgeon. Dywed Dr. Hannay, ysgrifenydd Un- deb yr Annibynwyr, " na chlywir ond mewti nifer fach iawn o bulpudau yr Annibynwyr lawer o bethau ar ba rai yr oedd pregefchwyr yr oes o'r blaen yn gosod pwys mawr." Dywed Dr. Mackennal, cadeirydd yr Undeb An- nibynol, " y byddai ef yn anffyddlon pe buasai yn cymeryd arno i gredu fod pregethu efengylaidd yn gyffredin yn ein plith." Dywed Dr. Chap- man, Prifathraw Coleg yr Annibynwyr yn Piymouth, "ei fod ef yn barnu nad yw gweinidogion yr oes hon yn pregethu athrawiaeth yr Iawn mor aml ac mor nerthol a'u rhagflaenwyr yn yr oes o'r blaen." Dywed y Parch. W. F. Adeney, Llundain, " Nis gallaf lai na theimlo fod cyfnewidiad mawr iawn wedi cymeryd lle yn safle dduwinjddol y weinidogaeth yn mhlith yr Annibynwyr." Gellir casglu oddiwrth hm nad yw y weinidogaeth yn efengylaidd, er y gall fod yn uniongred. Ẅliir bod yn uniongred heb fod