Skip to main content

Y DYSGEDYDD. TACHWEDD, 1851 Y PARCH. IOAN GIFFORD, Y gwr hynod hwn oedd gweinidog cyntaf yr eglwys hòno yn nhref Bedford ag y bu y Parch. John Bunyan yn fugail iddi ar ei ol. Cymerwyd yr hanes o gofion ysgrifenedig yr eglwys, y rhai ydynt grynodeb o'i helyntion o 1650 hyd 1889, gan y Parch. Ioan Jukes, ei gweini- dog presenol, ac a argraffwyd ganddo yn Uyfr, gyda bwriad i'r elw a ddeilliai oddiwrth ei werthiad fyned i'r drysorfa at dalu am ei haddoldy newydd. Gwel y Christian Witness am Ionawr, 1850, tudal. 17—21. " Efe a anwyd yn Nghaint. Yr oedd yn frwd dros y breuin, ac yn îs-raglaw yn ei fyddin. Efe a gymerodd ran yn nechreuad y rhyfel yn y sir hòno, am yr byn y daliwyd ef wed'yn, ac y cafodd ef, ac unarddeg eraill, eu dedfrydu i'r crog- bren. Y noson o flaen y diwrnod a benodwyd i'w ddienyddio, ymwelodd ei cbwaer ag ef. Ar ei dyfodiad at y carchar, hi a ganfu fod y gwyliedydd o'r tu allan yn cysgu; ac wedi deall fod ei gymdeithion oddifewn yn feddwon, hi a erfyniodd arno geisio dianc. Efe a wnaeth felly, ac a gafodd ei ffordd i faes, ac a ymguddiodd yn ngwaelod ffos ddofn am tua thridiau, yn mha yspaid y lleihaodd yr ymchwiliad am dano. Drwy ymddyeithrio, a chael cymhorth gan ei gyfeillion, efe a wnaeth ei ffordd i Lun- daln. Yn mhen ychydig, dygwyd ef i waered i gymydogaeth Bedford; ac efe a fu yn goddiedig am yspaìd yn nbai rbyw bobl fawrion ag oeddynt yn bleìdgar i ochr y brenin. Yn mhen rbyw gymaint o amser, cfo a ddaeth i Bedford, a cban ei fod yn gwbl ddyeithr yn y dref cfe a anturiodd ar yr alwedigaeth feddygol. Efe a barbaodd, er hyny, wedi ymollwng i ddrygioni, yn enwedig i feddwi, tyngn, ymwystlo, &c. Wrth y gwystlfwrdd, pa fodd bynag, anfynych y byddai yn ennillwr, eithr yn aml i'r gwrthwyneb. Un noswaith, ar ol colli swm mawr o arian, efe a aeth i dymher ffyrnig, gan fynwesu meddyliau celyd am ragluniaeth Duw. Ar ddamwain, efe a edrychodd i un o lyfrau y Parch. Mr. Bolton, a rhy wbeth a ddarllenodd yno a ymafloddd yn gadarn yn ei gydwybod; ac efe a fa mewn sefyllfa gyfyng dan argyhoeddiad o bechod am fis neu ychwaneg. O'r diwedd, yr Ysbryd Glan a olenodd ei feddwl i ganfod llwybr maddeuant trwy waed Crist, ac a lanwodd ei enaid â Uawenydd a thangnefedd. Arbosodd y teimlad hwn ynddo i radd angbyffredin. Clywwyd ef yn dywedyd na chollodd oleuni cysurus wynebpryd Duw am un awr yn yspaid pum mlynedd. Ni wybu beth oedd diffyg o'r fraint hon braidd un amser oddieitbr am ry w yspaid oddeu- tu deuddydd cyn iddo farw. " Wedi ei alw fel byn gan ddwyfol ras, efe a geisiodd ymuno â phobl Dduw. Efe a gafodd anhawsder mawr ar y dechreu i'w perswadio hwynt ei fod yn ddidwyll. Efe a fu yn bynod gyhoeddus yn ei elynìaeth i grefydd syml. O'r braidd y gallent hwy gredu ei fod yn ddysgybl. Ond gan ei fod yn bur wresog yn ei ymlyniad, ac yn naturiol o ysbryd gwrol, ni chymerai ei nacâu, eithr defnyddiai bob cyfleusdra i wtbio ei bun i'w plith hwynt. Ar ol Ilawer o anhaws- derau, efe a lwyddodd i gael ganddynt