Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MEDI,* 18 51, CODI I'E WEINIDOGAETH, Darllenwyd crynodeb o'r papyr hwn yn nghyfeillach y Gweinidogion yn eu Cy/arfod Ühwartcrol yn Berea, wrth Tyddewi, Nadolig, 1850. Ar eu cais anfonir cf i'r Dysgedydd. Wrth y weinidogaeth* y deallwn y gwaith o weini gair yr Arglwydd yn gyhoeddus i ddynion, sef ei bregethu: gweini i Dduw, a'i wasanaethu, trwy gyhoeddi a dyegu ei air ef i'r byd, mewn cyferbyniad i anwybodaeth a dycbymyg- ion dynion, ac mewn gwrthwynebiad i'r Hygredigaeth a'r gaugrefyddau sydd ar y ddaear. Wrth ymdrin â'r mater yma, y mae dau neu dri o bethau yn galw am ein sylw. Yn flaenaf, Pwy sydd i annog a chodi rhai i'r weinidogaeth, sef i'r gwaitb o bregethu yr efengyl. 1. Rbieni. Cawn siampl o hyn yn Hannah, mam Samuel, prophwyd enwog i'r Arglwydd. Darfu iddi ei gyflwyno cyn ei enì i wasaoaeth cyhoeddus Duw. Y mae rhieni, nid yn unig i fagu eu plant yn addysg ac atbrawiaeth yr Arglwydd, ond hefyd, os gwelant yn- ddynt ddefoyddiau a chymbwysderau naturìol at y weinidogaeth, y maent i helpu eu dadblygiad, a gofalunaroddont rwystr ar ffordd eu cysegriad i waith cyhoeddus Duw. Efallai y dylem ystyr- ied yr annogaeth yma yn hytrach yn nacaol nac yn bendant, yn annogaeth a dardd yn fwy oddiar gydsyniad nac oddiar gymhelliad uniongyrchol. Ar yr un pryd, iawn yw sylwi na byddai bai ar rieni am goffàu gwaith cyhoeddus yr Arglwydd fel gwaith defnyddiol a theilwng, ac felly ennill sylw, os nad serch, eu plant neu eu plentyn ato. Pa ffordd bynag y rhoir annogaeth at y gwaith, bydded i r'ieni ei wneuthur, nid er mwyn bywioliaeth iddo, ond fel ffordd uniongyrchol a rhagorol i ogoneddu Duw. Dylai fod gwyliadwriaeth fawr yn yr annog yma, rbag i serch naturiol at y plentyn gael ei gymeryd yn He doall da p ddyledswydd, a chydwybod o was- anaethu ac anrbydeddu Duw.* 2. Athrawon ysgolion dyddiol a Sab- 'bathol. Hyfforddi eraill yw gwaith rhai yn benodol; ond y maent i arolygu gweithrediadau a character y meddyliau sydd dan eu gofal, yn gystal a'u byfforddi. Daw athrawon yn uniongyrchol yn ngafael a meddwl, a gallant farnu am ei gymhwysderau at unrbyw waitb, ac at waith y weinidogaeth yn mhlith gorcbwylion eraill, a'u bod yn alluog i farnuam feddwl oll. Y mae eu celfyddyd yn werthfawr, a'u dyledswyddau yn bwysig. Hwy ddylent fod yn dduwiol, ac fel rhai duwiol i deimlo dros achos Crist, a gwneutbur eu goreu dros gyn- nydd ei deyrnas; ac felly i edrych yn mhlith y meddyliau sydd dan eu gof»l am rai y gellid ymddiried y weinidogaeth iddynt, a'u hannog at y gwaith. Y mae cyfleusdra gan yr athrawon hyn i weled cynneddfau naturiol y plant, a'u tuedd a'u gweithredìadau moesol.