Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDI) MEHEFIN, 18 51 NAWDDLE GOIÍPHWYLLIAID GOGLEDD CYMEIL GEB DINBYCH, Ymddifadrwydd o bwyll a rheswm, neu ddyryswch yn nghynneddfau enaid tlyn, yw y trueni mwyaf a ddichon ei gyfarfod yn y fuchedd hon. Nid ydyw colli rh'ieni, pri'od, plant, nac iechyd mor fawr a cholli hunanadnabyddiaeth, hunanlywodraetb, a rheswm. Gan mai hwn yw y trueni mwyaf, sefydlu nawddle gofalus, ac adeiladu lle priodol i ymgel- eddu, cynnal, ac adferyd y trueiniaid gorphwyllog yw y drugaredd fwyaf a ddichon y naill ddyn ei wneuthur i'r llall. Y mae pob dyn dan rwymau i gymeryd dyddordeb yn y sefydliad hwn. Gan mai math o afiechyd yw gorphwyll- dra sydd yn cael ei achosi mewn mil o ffyrdd anadnabyddus i ni, gallwn ni ein hunain, neu rai o'n perthynasau, syrthio i'w afael, a bod o dan yr angenrheid- rwydd o gael ein cymcryd, neu i gymeryd rhai o'n hanwyliaid i'r fath sefydliad a hwn. Yr ydwyf yn adnabod llawer ag y mae iddynt berthynasau hofF yn y Nawddle hwn. Gelwir amaf weithiau gan gyfeill- ion i fyned gyda hwynt wrth gymeryd rhai i mewn. Bum yn ymofyn rhai allan, a bum yn fynych ar gais perthynasau yn ymweled â'r rhai a fu neu sydd yma. %ddaf hefyd weithiau yn derbyn Ilyth- yrau yn ymofyn yn nghylch y sefydliad hwn. Dyma rai o'm rhesymau dros wneuthury sylw cyhoeddus hwn arno. Y mae yr ail Adroddiad o weithred- iadau y sefydliad hwn newydd ddyfod allan o'r wasg. Wrth edrych dros adroddiad y Pwyllgor, gwelwn fod y taliadau wythuosol dros y cleifion yn ateb yn awr i holl draul y sefydliad. Y mae adroddiad y meddygon yn dangos sefyllfa bresenol y cleifion. Er dyddiad yr adroddiad diweddaf, derbyniwyd 7G i mewn. Cymerwyd 28 allan wedi eu harferyd; 7 wedi eu gwellàu iraddau; 10 wedi marw. Wrth ystyried gwahanol aflechyd y dyoddefwyr y mae yn rhyfedd fod can lleied wedi meirw. Wrth ystyried mor lleied yw rhifedi y cleifion, y mae yn destun diolchgarwch fod cynnifer wedi eu hadferyd. Y mae adroddiad y capel- wr yn dangos, o'r 133 sydd yn awr yn y Tŷ, fod rhwng 50 a 60 yn alluog i ymarfer â moddion crefyddol. Dywed fod cynghorion ac ymddyddanion cref- yddol yn dderbyniol gan lawer. Diolcha i'r meddygon am eu hynawsedd yn caniatáu iddo ymweled, yn ol ei farn a'i wybodaeth, á'r holl gleifion. Gallaf finnau ddwyn tystiolaeth fod y meddygon bob amser yn caniatàu i unrhyw weinidog ymneillduol ymweled â'r cyfryw y dy- munir arnynt ymweled â hwynt, os bemir eu bod yn gymhwys i'w gweled pan yr ymofynir am hyny. Ond y peth penaf genyf mewn golwg yn yr ysgrif hon oedd dwyn fy nhystiol- aeth am y dull a'r drefn y mae y sefydl- iad hwn yn cael ei gario yn mlaen, yn nghydag ymddygiad cyffredinol y swydd- ogion, am mai yn rghylch hyn y mae mwyaf o bryder ac ymholiad gan gyfeill- ion y rhai sydd ynddo. Rheol ddieithriad y sefydliad hwn yw cyfraith cariad. Ni arferir un math o Iymder mewn bygythion, rhwymau, na chosb. Y mae tiriondeb n sirioldeb y