Skip to main content

Y DYSGEDYDD EBRILL, 1851. Ma. Gol.—Traddodwyd y sylwadau canlynol i'r cynnulleidfaoedd y meddwyf yr anrhydedd o lafurio yn eu mysg ar Sabbath, Ionawr 12. "Gan i amrywiol arwyddo eu cymeradwyaeth o'r syniadau a gynnwysant, antariais eu hanfon i'w hargraffu yn y Dysop.dydd, os bernweh y byddant oryw fuddioldeb yn yr adeg bresenol o yroosodiad ar ein Ffydd Brotestanaidd. "Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd íesu Grist i Rhyl, Ionamr 14, 1851. i mewn purdeb." TH0MA9 B. MORHIÌ. "YE ANWIE HWNW," 2 Thes. 2. 3—10. Yr oedd yr apostol, yn ei lytbyr cyntaf at eglwys Iesu Grist yn Thessalonica, wedi crybwyll am ddisgyniad yr Ar- glwydd o'r nef yr ail waith i gyfodi y meirw, ac i alw pawb i'r frawdle gyffred- inol. Ac y mae yn ymddangos, wrth ddechreu y bennod bon, fod rhai o'r Thessaloniaid wedi syrthio i radd o amryfusedd gyda golwg ar yr amgylchiad hwnw, gan dybied fod yr adeg eisoes bron gerllaw. Mewn canlyniad i goledd- iad y dyb gyfeiliornus hon, mae yr apostol yn eu gosod areu gwyliadwriaeth yn ei herbyn: dy wed na fýn i ysbryd, gair, na llythyr, eu siomi mewn pwnc o gymaint pwys. Dyry i lawr restr o'r petbau mawrion a rhyfedd oedd yn sicr o ddygwydd yn flaenorol i ail ymddang- osiad y Messía. Rbaid dyfod yn gyntaf ymadawiad maWr oddiwrth y ffydd, a datguddio y dyn pechod, mab y golled- igaeth. O barth yr "ymadawiad" dan sylw, mae amrywiol olygiadau wedi cael eu hamddiffyn gan feirniaid Biblaidd. Mýn rhai ei fod yn cyfeirio at ryw wrth- giliad oddiwrth yr Eglwys Gristionogol, a gymerodd le yn flaenorol i ddinystriad dinas Jerusalem. Eraill a gyfeiriant yr M ymadawiad" hwn at Mahomet a'i gref- ydd dwyllodrus, gan ddal ei fod ef yn cyfateb i'r darluniad yn y geiriau am- gylchynol. Medd rhai o'r Pabyddion yr baerllugrwydd i gadarnhau mai at y diwygiad clodadwy trwy Luther a'i gyd- lafurwyr enwog y mae cyfeiriad yr ymadroddion. Ond y mae y rhan fwyaf o lawer o esbonwyr, a gyfrifir yn union- gred, yn cyduno i olygu yr ymadrodd yn gosod allan lygriad Cristionogaeth yn y gwrthgiliad mawr o dan Babyddiaeth, a meddyliant fod y "dyn pechod" a "mab y golledigaeth" yn golygu Esgob yr Eglwys Rufeinig, sef y Pab ei hun. Mae y darlun yn cyfateb mor dda i'r hyn a wyddom a fu Pabyddiaeth yn mhob oes, yn gystal ag i'r hyn ydyw yr awrhon, fel nad oes reswm dros ammau priodoldeb y cymhwysiad. Yr oedd Iesu Grist yn bregetbwr i'r amserau, ac y mae yr amserau rbyfedd sydd yn myned heibio yn bresenol yn dangos y dylem fedru eu harwyddion. Byddai hyny yn sicr o'n gwneud yn Gristionogion effro, gweithgar, a defnyddiol. I. Sylfaeniad llywodraeth "y dyn pechod" yn yr Eglwys Gristionogol. 1. Cafodd ei sylfaenu yn gynnar iawn. " Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes." Dyry hyn ar ddeall mewn ymadroddion pendant fod elfenau hanfodol y grefydd Babaidd wedi ymlusgo i'r eglwys mor foreu ag oes yr apostolion. Crybwylla Ioan am un Diotrephes oedd yn chwennych y blaen yn mhlith y brodyr; dyma Bab bychan wedi ei eni mor fore ag amser y dysgybl anwyl. Gwyddom fod eulunaddoliaeth yn un o nodweddau arbenig Pabyddiaeth yn ein dyddiau ni; gweddîant ar angylion a seintiau; pentyrant ddelwau o Mair a Phedr, a syrthiant ger eu bron i gynnyg ymostyngiad a gwasanaeth crefyddol iddynt. A chawn fod y llygredigaeth dan sylw yn dechreu lefeinio yr eglwysi cyntefig, fel yr oedd Paul dan yr angen- rheidrwydd o'u rhybuddio yn nghylch eu perygl. Dywed wrth y Corinthiaid, « O herwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulunaddoliaeth." Ac wrth siarad à'r Colossiaid, dyry iddynt awgrym