Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. M A WRTH, 1851 SEFYLLFA YR ENAID 0 ANGETJ ADGYFODIAD, HYD YR LlYTHYH II. Yn y lle nesaf, dadleuir fod y pwys neillduol a roddir yn y Testament New- ydd ar yr Adgyfodiad, yn lled arwyddo absenoldeb sefyllfa o ymwybodolrwydd hyd oni chymero y dygwyddiad aruthrol hwnw le. Gellir dywedyd fod yr ysgrif- cnwyr santaidd yn cyfeirio gyda boddlon- rwydd buddugoliaethus at ddydd pryn- edigaeth y corff. Yr oedd adgyfodiad y meirw fel gwrthddrych hoff at yr hwn yr ymestynent; fel Canaan ddymunol, yr hon y dymunent ei chyrhaedd; ac fel caniatâd i'w Ilygaid weled iachawdwr- iaeth yr Arglwydd. Yn y dydd hwnw yr hyderent am gyfarfod â'r rhai oedd wedi huno yn yr Iesu, a dyna y bore y dysgwylient dderbyn coron cyfiawnder. Ni chrybwyllent am fwynhad o'u coron annifianedig a gogoneddus, hyd ym- ddangosiad y Pen-bugail. Y mae braidd yn sýn, os oedd Paul yn credu mewn sefyllfa o ymwybodolrwydd, na buasai yn dyddanu y Thessaloniaid drwy eu hysbysu am y dedwyddwch a fwynhai eu cyfeillion ymadawedig y pryd hwnw, yn lle gohirio cyflawniad eu hyfrydwch hyd ddyfodiad Crist. Gellir gwneuthur yr un crybwylliad hefyd am ei fynegiad eglur mai yn nydd ymddangosiad Crist y derbyniai ef ac eraill goron cyfiawnder. Sonia yr apostol, mewn lleoedd eraill, am fod gyda Christ megys cyflwr Ilawer iawn gwell na helbulon erledigaethus y ddaear; ac am fod yn absenol o'r corff, a chartrefu gyda'r Arglwydd. Ymdrecha pleidwyr y dyb o gwsg, neu anymwybod- olrwydd yr enaid hyd fore yr adgyfodiad, ddangosei bod yn berffaith gyson â'r fath eiriau a bod gyda Christ, bod yn wastad gyda'r Arglwydd, neu yn gartrefol gydag ef, drwy sylwì mai felly y bydd i deimlad pob dyn duwiol. Pan y mae dyn yn gorwedd ac yn huno am ddeg o'r gloch y nos, ac yn deffro am chwech bore dranoeth, nid ei deimlad sydd yn ei ddysgu ei fod wedi cysgu wyth awr. Gellir canfod hyn yn ddigon eglur mewn personau a arferant gysgu ganol dydd. Nid oes ganddynt, ar ol deffro, yr un amcan pa faint o amser a dreuliasant yn eu cwsg. Y mae yr un gwirionedd hefyd yn gymhwysiadol at bersonau yn deffro yn y nos, cyn huno eu hamser arferol. Cofus genyf i mi fy hun, un o'r boreuau cyntaf y'm gosodwyd yn wysiwr yn Ngholeg Aberhonddu, aflonyddu hûn y brodyr drwy ganu y gloch am ddau yn y boreu, yn lle am chwech. Deffroais, gwelais hi yn lled oleu, a thybiais fod yr amser nodedig wedi dyfod. Mewn cyflwr o anymwybodolrwydd, nid oes ganddom un meddylddrych am barhad. Pan yn ychydig gydag un mlwydd ar ddeg oed, cyfarfyddais â damwain, nodau yr hon a arhosant ar fy wyneb hyd heddyw. Pa beth oedd, nis gwn—pa un ai ergyd mellten, neu ynte rediad ceffyl wedi ei ddychrynu gan y dymhestl ar fy nhraws drwy adwy gul. Ond ni waeth pa un— gwnaeth fi yn hollol annheimladwy ac anymwybodol. Pa hyd yr arhosais yn y cyflwr hwnw, nis gwn; ac nid oes genyf un amgyffred am yr yspaid a dreul- iais ynddo. Fy nheimlad cyntaf oedd sefyllfa o fwyniant na theimlaswn erioed ei gyffelyb ; yr ail oedd, ymdrech i dynu ymaith o'm genau ran o ddant drylliedig; a'rtrydydd oedd, cryndod dirfawr wrth ymdrechu codi ar fy nhraed. Dichon na threuliais bum mynyd yn y cyflwr anymwybodolhwn, a dichon i mi dreulio pymtheg neu ugain. Ond pa un bynag ai byr ai hir oedd ei barliad, nidoedd hyny yn gwneud un gwahaniaeth i'm bym-