Skip to main content

Y DYSGEDYDD. CHWEFRO-R, 1851. Cefais y Traethawd hwnynmhlith ysgrifeniadau y diweddar Barchedig B. Eyans, Bagillt: mae yn cynnwys ynddo amryw o sylwadau rhagorol, ac yn fynych yn wir hyawdl a grymus. Y mae fel ei hysgrifenwyd ganddo ef ei hun, oddieithr ychydig o newidiad weithiau yn y gystrawen. Llanuwchllyn. T. Roberts. CYFAMMOD EGLWYSIG, "Ac o herwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfammod sicr, ac yn ei ysgrifenu; ac y mne ein tywysogion, ein Lefiaid, a'n hoffeiriaid, yn ei selio. A'r rhan arall o'r bobl, yr offeiriaid, y Leliaid, y porthorion, y cantonon, y Neth- iniaid, a phawb a'r a ymneillduaaant oddiwrth bobl y gwledydd at gyfraitb L)uw, eu gwiagedd bwynt, eu meibion, a'u merclied, pawb a'r a oedd a gwybodaeth ac a deall ganddo : hwy a lynasant wrth eu brodyr, eü pinaethiaid, ac a aethant mewn rhaith (neu felldith) a llw ar rodio yn nghyfraith Duw, yr hon a roddasid trwy law Mosea gwas Duw : ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchymynion yr Arglwydd ein Harglwydd ni, a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau," >'ehemiah 9. 38; 10.28,29. Yr ydym yn darllen yn yr ysgrythyrau santaiddamamryw gyfammodau, megys yr un a wnaed â Noah, ag Abraham, ac â'r Hebreaid fel cenedl; onddaugyfam- mod sydd yn dal perthynas mewn un ystyr neu y llall â holl ddynolryw, a elwir yn gyffredin y cyfammod gweith- redoedd, a'r cyfammod gras. Tòrwyd a diddymwyd y cyntaf trwy drosedd Adda, eìn cynnrychiolwr, yn Mbaradwys; ond y mae ei ganlyniadau a'i effeithiau yn deimladol a gweledig yn mhlith holl hil- iogaeth Adda dros wyneb y ddaear. Amcan y cyfammod gras yw daioni cy- ffredinol dynolryw, ac iachawdwriaeth dragwyddol tyrfa nad all neb ei rhifo. Oddiar gyfansoddiad y cyfammod hwn y tarddodd pobcyfammod arall y sonir am dano yn y Bibl: canghenau neu ffrydiau ydynt oll o'r cyfammod gras. Oddiyma y cyfododd cyfamtnod prynedigaeth rhwng Iehofa y Tad, a Iehofa y Mab, Crist Iesu. Ac hefyd, y cyfammod rhwng Duw yn Nghrist, a'r eglwys yn gyffredinol: a'r un modd y cyfammod a gymer le rhwng aelodau yr eglwys yn mhresenoldeb eu gilydd, ac yn enw eu Duw. Am y fath gyfammod a'r diweddaf, y mae yn dra amlwg fod geiriau y testun yn son. Yr ydym wedi darllen yn fyn- ych o'r blaen am y penaetbiaid, yr off- eiriaid, a'r bobl yn ymgyfammodi ger bron Duw i ymwrthod á'u hanwireddau, i lynu wrth ei wasanaeth, ac i rodio yn ei ffyrdd, Exod. 19. 7, 8; 24. 3, 7. Geiriau hynod a gawn hefyd yn Esay 44. 5, " Hwn a ddywed, Eiddo yr Ar- glwydd ydwyf fì; a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifena â'i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ym- gyfenwa ar enw Israel." Ond hon yw y siampl gyntaf a gawn o gyfammod wedi ei roddi mewn ysgrifen, a'i arwyddo ag enwau, ac à seliau y personau a aent o dano. Ac yma y cawn fod pob un, o'r penaeth i'r proselyt, ac o'r tad i'rplent- yn, "a'r a oedd a gwybodaeth ac a deall ganddo," yn ymuno yn y modd mwyaf sobr a difrifol fel yn ngwydd Duw. Felly y mae gan bob cymdeithas grefyddol y ceir fod ei ffurfiad, eiilyw- odraeth, a'i dysgyblaeth yn ol llythyren ac ysbryd y TestamentNewydd, ei chyf- ammod eglwysig. Ac os oedd yn beth pwysfawr iawn a digelîwair i ymrwymo mewn cyfammod eglwysig, megys y ceir yma ei fod yn nyddiau Nehèmiah, dan oruchwyliaeth Moses, pa faint mwy felly yw hyn yn ein dyddiau ni, dyddiau yr efengyl, a than oruchwyüaeth oleu a neillduol y Cyfryngwr mawr, yr Ar- glwydd Iesu Grist? Sylwn yn I. Natür y Cyfammod Eglwysig. 'f.