Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDI). IOIAWR, 18 51, SEFYLLFA YR ENAID 0 ANG-EU HYD YE ADGYFODIAD, CAN IEUAN CWYNEDD. £<Y mae ysbryd mewn dyn, ac ysbryd- oliaeth yr Hollalluog sydd yn peri iddo ddeall." " Gosodwyd i ddynion farw unwaitb, ac wedi byny bod barn." " Oni wyddoch chwi y cyfodir y meirw ?" Eglura y geiriau hyn dri o wirioneddau pwysig. Yr ysbryd—ei ymadawiad â'r corff—a chyfodiad y corff i'w ail uno â'r ysbryd. Fod dyn yn feddiannol ar enaid sydd wirionedd a ddangosir gan reswm, ac a eglurir gan ddatguddiad; fod yr enaid a'r corff i gael eu hysgaru a gad- amheir drwy brofiad beunyddiol; ac y bydd adgyfodiad i'r corff sydd athraw- iaeth a brofir gan gydweddiadau anian u thystiolaeth Datguddiad dwyfol. Er fod llawer o ddynion gwybodus yn barnu nad ydyw dyn ond defnydd sylweddol, ac nad oes diin ansylweddol ac ysbrydol ynddo, nid yw yn debyg y bydd i'r dyb hon ddyfod yn gyffredinol. Mae llawer o syniadau cywrain, y rhai er naddichon rhesymeg eu gwrthbrofi, etto na chredir gan reswm. Er y gallant am enyd ddyrysu y deall, etto ni allant ennill y teimlad. Mae y cleddyf yn loew, ond y mae ei fin yn rhy amlwg i ddwyn dyn- ion i'w wasgu at ^u calonau. Dwg y dyb hon, fel llawer eraill, gyda hi ei dinysfr ei hunan. Y mae mor oerllyd ac annaturiol fel na chynhesa byth y serchiadau. Y mae cymaint o angeu yn ei chrochan, fel na ddena ond ych- ydig i yfed o'i chawl. Wedi edrych arni yn wisgedig á holl swynion dysg, ac á holl dlysau athroniaeth, nid oea genym ond troi ymaith, gan ddywedyd, " Y mae ysbryd mewn dyn, ac ysbrydol- iaeth yr Hollalluog sydd yn peri iddo ddeall." Yr enaid, yn ol yr ystyr gyffredin a roddir genym i'r gair, ydyw y rhan ysbrydol [ac anfarwol] o ddyn. Felly y deallir y gair genym yn bresenol, er nad ydyw o ran ei gyfansoddiad yn dysgu yr athrawiaeth hon o anghen- rheidrwydd. Deillia y gair Cymreig enaid o cn ac aid, yn ol Dr. W. O. Pughe. En ydyw ffynnon bywyd, eg- wyddor fywiol,—yr hyn sydd aníärwol, bod, ysbryd, enaid, neu haufod. Aid a arwydda egwyddor fywiol bywyd. Dichon fod gwreiddiau y gair yn fwy ffafriol i'r dyb o anfarwoldeb na'i arfer- iad. Dywed Dafydd ab Gwilym, Cellweiriwr call aid, yr hyn a arwydda ddyn cellweirus o fuchedd neu fywyd cyfrwys. "A'r Ar- glwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes; a'r dyn a aeth yn cnaid byw." Nis gellir deall i'r dyn fyned drwyddo oll yn enaid, ac nis gellir meddwl ychwaith ei fod yn enaid marw cyn i'r Arglwydd anadlu yn ei ffroenau. Y meddwl ydyw i'r dyn fyned yn gread- ur byw, yn mywyd yr hwn y dangosid gweithrediadauyrenaid. "Tòrerymaith yr enaid hwnw o fysg ei bobl." Yma,