Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HYDEEF, 1850, ÜOFIAOT Y PARCH, AZARIAH SHADBAÜH, OÎNT O ABERYSTWYTH. Dywed y gwr doeth fod " coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig." Mae gollwng enwau a llafur dynion "rhagorol y ddaear" i dir anghof yn golled i'r oes- oedd a ddel: mae edrych ar esiamplau a gorchestion milwyr da yn myddin yr Oen wedi bod yn aml yn foddion i ennyn tnwy o sel yn mynwesau eu holynwyr i ymdrechu yn fwy gwrol "o blaid yffydd a draddodwyd unwaith i'r saint." An- aml y gwelir gwerth ffyddloniaid tra y byddont byw, ac y telir priodol sylw i'w hymdrechion i amddiffyn a lledaenu teyrnas Crist nes eu cymeryd oddiwrth eu gwaith i fwynhau eu gwobr; ond bu darllen hanes eu bywyd rhinweddol a duwiol yn foddion lawer gwaith i gryf- hau ffydd y gweiniaid, ac i adfywio meddwl y llesg yn mysg llwythau Israel. Ganwyd y Parch. Azariah Shadrach ar y 24ain o Fehefin, yn y fl. 1774, yn mhlwyf Llanfair, swydd Benfro: nid yw yn hysbys yn mha amgylchiadau yr oedd ei rieni, ond eu bod yn enedigol o blwyf Nyfern, yn y swydd a grybwyll- wyd ; eu henwau oedd Henry ac Ann. Bu iddynt chwech o feibion, y pummed oedd gwrthddrych ein Cofiant. Ni chafodd fawr o fanteision gwybodaeth yn nechreu ei oes pan dan ofal ei r'ieni. Pan oedd o ddeg i unarddeg oed, symud- wyd ef at berthynas iddo ag oedd yn byw yn mhlwyf Trewyddel, lle y cafodd gyfleusderaui ddysgu darllen ac i wrando gair Duw. Yn dra buan ar ol hyn, der- byniwyd ef yn aelod o'r EglwysGynnulI- eidfaol yn Trewyddel, y pryd hyny dan ofal y diweddar Barch. John Phillips. Llafuriodd lawer tua'r amser yma, er dan anfanteision, i gyrhaedd gwybod- aeth; a thrwy ymdrech diflino gwnaeth gynnydd nid bychan mewn pethau cref- yddol. Ychydig wedi ei dderbyn yn aelod eglwysig, teimlai awydd, a chaf- odd annogaeth gan yr eglwys, i breg- ethu; ac er yn ieuanc, teithiodd drwy Dde a Gogledd gyda'i hen gyfaill myn- wesol y diweddar Barchedig Daniel Evans, Mynyddbach. Yn y flwyddyn 1799, aeth i'r Gogledd i gadw ysgol, ac i bregethu i le a elwir Hirnant, ger Llanrhaiadr-yn-Mochnant, lle y bu yn llafurio ac yn ddefnyddiol iawn yn yr ardaloedd tywyll ac anwyb- odus hyny. Yn niwedd y flwyddyn uchod, symudodd i Pennal, swydd Feirionydd; ymroddodd i'w waith yn y lle hwn eilwaith, a bu yn offeryn i breg- ethu yr efengyl mewn rhai manau yn y cylchoedd na phregethid hi o'r blaen gan yr Annibynwyr. Ymadawodd o Bennal, a daeth i'r Dderwenlas, ger Machyn- lleth; llafuriodd yno yn ddiwyd gyda'i ysgol a'i hoff waith, sef cyhoeddi yr efengyl. Nid hir y bu cyn ymadael ag ardal Machynlleth, ac aeth i Trefriw, ger Llanrwst, swydd Dinbych; yn yr ardaloedd hyn, llafuriodd yn wyneb llawer o rwystrau, oblegid yr oedd sir- oedd y Gogledd y pryd hwnw yn dra thywyll ac erledigaethus yn eu hym- ddygiadau tuag at yr ymneillduwyr, oddieithr rhai manau, tua diwedd y flwyddyn 1802. Cafodd ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llanrwst, lle y llafur- iodd yn ddiwyd a llwyddiannus, ac yn yr ardaloedd oddiamgylch, tua phedair blynedd. Yr oedd yn tòri allan ar y 2 o