Skip to main content

Y DYSGEDYDD. M E DI, 1850 LLYWODRAETH FOESOL.—Rhif IV. CAN Y PARCH. D. MORCAN, LLANFYLLIN. III. Cymhwysder y dedwyddwch A DDADGUDDIA Y LLYWODRAETH I FOD YN GYMHELLYDD PRIODOL i'R UFUDD- dod a ofynir. Pan ddywedir am briodoldeb cymhellydd (motẁe,) ni feddylir fod ei briodoldeb yn gynnwys- edig yn ei ddigonolrwydd anammodol i sicrhau cynnyrchiad ei effaith ddaionus ar y deiliaid yn mhob amgylcbiad. Ymddibyna llwyddiant daionus ar yr olwg fyddo gan y meddwl arno, y lle a gaffo yn ei sylw a'i ystyriaeth, a'i gyd- darawiad ag agwedd y galon o ran ei theimladau ato. Mae meddwl am gymhellydd a gynnyrcho effaith dda yn annibynol ar y pethau hyn, yn ddy- chymygu am un na pherthyna i'r Ilyw- odraeth foesol, os nad ydyw yn ddy- chymyg hollol afresymol. Mae y llyw- odraeth yn ymwneud à'i deiliaid yn ei chymhelliadau yr un modd ag yn ei gofynion, o ran yr hyn ydynt hwy fel creaduriaid rhesyinol yn meddu rhyddid. Gesyd ei chymhelliadau ger bron y meddwl, i'w annog a'i berswadio i fod yr hyn a ddylai; ac ymddibyna yr effaith a gynnyrcha ar y defnydd a wneir o honynt. Byddai dysgwyl i effaith dda gael ei chynnyrchu oddiwrth y cymhell- iadau goreu a mwyaf pwysig, er eu gosod o flaen y meddwl yn y dull goreu fyddo yn ddichonadwy, tra fyddo y galon yn ddiystyr a disylw priodol o honynt, ac yn llawn rhagfam a chasineb atynt, yn llawn mor wrthanianyddol a phe dysgwylid casglu "grawnwin oddiar ddraiu, neu ffigys oddiar ysgall." Gan hyny, dylem edrych ar briodoldeb y cymhelliadau ynddynt eu hunain, a'r hyn ydynt yn yr effaith a ddygant yn yr iawn ddefnydd o honynt, tuag at weled fod y dedwyddwch a ddeil y Uywodraeth foesol ger bron y deiliaid, yn briodol ar gyfer yr ufudd-dod a ofynir. 1. Sylwn ar y cymhellydd ynddo ei hun, aef y dedwyddwch a esyd y llyw- odraeth o fìaen y deiliaid i'w cymhell i ufudd-dod Vw gofynion. Nid ydyw yn ddim llai na'r hyn ydyw Duw ynddo ei hun, fel unig ffynhonell pob gwir dded- wyddwch i'w greaduriaid rhesymol, a'r hyn a wnaeth ac a wna mewn creadig- aeth, rhagluniaeth, ac a ddadguddiodd yn ngair y gwirionedd. Dadguddia ei hun yn y Ilyfrau mawrion hyn, a cbyf- eiria y llywodraeth bob un o'r deiliaid atynt mewn cyhoeddiad nertbol a chad- arn, nad oes un Duw ond efe. Geilw sylw pob un o'r deiliaid ato ef ei hun yn y dadguddiad hwn o'i briodoliaethau naturiol a nioesol, ac yn ei berthynasau a'i gymeriadau, megys unig wrthddrycb teilwng o'u meddyliau a'u hymostyngiad, a holl weithrediadau eu heneidiau. Feí y mae yr Iehofah mawr yn cynnwys pob daioni ynddo ei hun, felly rhaid fod y dadguddiad a wna o bono ei hun y cymhellydd mwyaf, cryfaf, a'r goreu ag y mae yn ddichonadwy iddo fod, er cymhell ei greaduriaid i ufudd-dod iddo. Nid oes neb a ystyria ond y radd leiaf am ei anfeidrol fawredd, ei ogoniant, a'i ddaioni yn yr hyn a wnaeth ac a wna er dedwyddwch ei greaduriaid gwael a distadl, a feddylia am fynyd nad ydyw yn deilwng i gael yr oll a ofyna oddiwrth ddeiliaid ei lywodraetb. Po fwyaf y dadguddia efe ei anfeidrol fawredd a'i ogoniant yn llesâd, daioni, a dedwydd- wch ei greaduriaid, cryfaf i gyd ydyw y cymhelliad, a mwyaf i gyd ydyw y rhwymedigaeth i ufudd-dod. Diainmau fod holl ddedwyddwch y saint yn y nef yn tarddu o amlygiadau mwynhaol o ogoniant eu Duw, a tbeimladau priodol tuag ato. Rhwymir ni i gredu oddiwrth naturpetbau, pe na buasai ond y dad- guddiad a wneir o fawredd a gogoniant Duw mewn naturiaeth a gweinyddiad ei lywodraeth foesol yn unig, y buasai y dadguddiad hwn yn gymhellydd o'r fath a fuasai yn sicrhau pob meddwl gonest a