Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. A W ST, 18 5 0 COFIANT EVAlvr HUGHES, LLANFAIR, M A L D W Y N . Y mae oesau a chenedlaethau y byd hwn yn myned ymaith yn olynol, y naill yn ymddangos fel y mae y llall yn diflanu. Bu eraill o'n blaen ni, ac yr ydym ninnau o flaen eraill. Y mae y byd hwn, mewn ystyr naturiol a chref- yddol, beunydd yn newid ei wrthddrych- au, fel y gwna prenau y goedwig newid eu dail. Y mae gan angeu fyddinoedd lluosog ac arfog i annelu eu saethau marwol at bawb o'r hil ddynol. Y mae y brenin dychrynllyd hwn weithiau yn chwyrnellu ei saethau mor gyflym a'r fellten: efe a fwrw frenhinoedd oddiar eu gorseddau; tywysogion ardderchog yn nghanol dysgleirdeb amserol, gweini- dogion duwiol, diaconiaid defnyddiol, ac athrawon llafurus, a dry i derfynau llygredigaeth. Y mae parch i goffadwriaeth y marw, yn ngbyda budd a llesâd y byw, yn ein rhwymo i gadw "y cyfiawn mewn coffad- wriaeth." Yr ydym yn barnu fod gwrthddrych y Cofìant hwn yn gwisgo y nodwedd uchod, ac o ganlyniad, nid teg a fyddai i ni adael i'w enw bydru. Mr. Evan Hughes ydoedd fab i John a Catherine Hughes, Braichlwyd, plwyf Mallwyd, swydd Drefaldwyn. Ganwyd ef yn y fiwyddyn 1779. Mewn perthynas i'r rhan foreuol o'i fywyd, nid oes genyf ond ychydig o wybodaeth gywir. Y mae yn ymddangos na chafodd ond ychydig o addysg yn moreu ei oes. Yn y flwydd- yn 1810, ymbriododd gyda Miss Lydia Asley, merch Mr. Edward a Jane Asley, plwyf Gygidfa, swydd Maldwyn. Bu iddynt ddeg o blant, saith o ba rai sydd wedi marw, a thri etto yn fyw. Yn fuan ar ol iddo ymbriodi, daeth ei gyfiwr ysbrydol i wasgu yn drwm ar ei feddwl, Yn y flwyddyn 1818, derbyniwyd ef yn aelod yn Llanfair: efe oedd yr aelod cyntaf a dderbyniodd y Parch. James Davies ar ol iddo gael ei neillduo i waith y weinidogaeth; a'i blentyn ef oedd y cyntaf a fedyddiwyd ganddo. Crwynwr oedd ein brawd ymadawedig wrth ei alwedigaeth; ac yr oedd yn ofalus iawn i ddilyn ei orchwyl, ac yn gwneud byw- ioliaeth gysurus. Cynnysgaeddwyd ef à sefyllfa gysurus: ni chafodd na thlodi na chyfoeth; ond porthwyd ef â digonedd o fara. Gan mai â'i nodwedd fel Crist- ion defnyddiol a hardd y mae a fynora yn fwyaf neillduol yn y llinellau hyn. wedi gwneud byr grybwyllion am ein hanwyl frawd yn ei amgylchiadau cyffredin, sylwn ar rai o'r rhagoriaethau perthynol iddo, teilwng o goffadwriaetli ac efelychiad. Gellir dywedyd am dano, " Efe oedd ganwyll yn llosgi ac /n goleuo;" a theimlir colled fawr o her- wydd ei symudiad gan ardal ac eglwys Llanfair. Nid mawredd dawn, gwybod- aeth, nac athrylith Evan Hughes a'm tueddodd i ysgrifenu hyn o Gofiant iddo, ond fy mod yn meddwl ei fod ef yn ddyn duwiol. Fel cyfaill. Gall ysgrifenydd y 11 in- ellau hyn ddywedyd am dano, "Cu iawn a fuost genyf fi." Pell ydoedd oddiwrth fod yn wag-siaradus. Yr oedd yn feddiannol ar synwyr cyffredin cryf, a thymher addfwyn. Cydgyfeillechais lawer gydag ef, a gallaf ddweyd heb wenieithio i'w goffadwriaeth ef y can- fyc:lid y cywirdeb mwyaf ynddo. Yn ei