Skip to main content

Y DYSGEDYDD. GORPHENAF, 1850 COFIANT MES, ELLIS, O'E BEITHDIE, PRIOD Y PARCH. R. ELLIÍ Gwrthddrych y Cofiant hwn ydoedd ferch i Mr. a Mrs. Jones, Aberkin, Llanystumdwy. Yr oedd ei rhi'eni o air da, a chymeriad uchel a pharchus yn eu hardal, a chan eu hadnabyddiaeth yn mhell ac agos; ac nid ychydig oedd adnabyddiaeth Mr. Jones yn Nghymru a Lloegr, o herwydd ei fod yn fasnachwr helaeth mewn moch a defaid o Gymru i ,Loegr am lawer o flynyddoedd. Cyfrifid ef yn ddyn o synwyr anghyffredin, syl- weddol yn ei farn ar unrhyw fater, yn meddu ar barod-air (wit) neillduol, teg a phenderfynol yn ei fasnach, fel yr ennillodd gymeradwyaeth ar dir teg, a gair daarlwybruniondeb a chyfiawnder. Gyda golwg arno, ysgrifenodd y bardd ar gàreg ei fedd yn mynwent Llanys- tumdwy yn ddigon priodoJ, " Braidd ei fatli i'w briddo fydd Anfynycb. yn Eifionydd." Mrs. Jones hefyd a berchid yn fawr gan bawb, yn neillduol gan bob tlawd ac anghenus, y diymgeledd, y claf, y weddw, a'r amddifad, a'r trallodedig, pwy byuag fyddent, o herwydd amledd a haeledd ei chyfraniadau iddynt oll yn eu hanghenoctyd. Yr oedd y ddau o deimladau a barn dyner at ymneillduwyr, er eu bod wedi eu dwyn. i fyny o'u mebyd yn yr Eglwys Sefydledig; ac ar brydiau, cyrchent iddi ar hyd eu hoes. Yr oedd' hi yn ferch i'r diweddar Barch. Mr. Thomas, Person Llanfrothen; ond wedi iddynt br'iodi, ac ymsefydlu yn Eifion- ydd, mynychent wrando ar yr Annibyh- wyr yn benaf, a chynnorthwyent lawer arnynt er dwyn eu hacbos yn mlaen : a gŵyr degau o weinidogion yr enwad hwn (llawer o ba rai sydd yn fyw heddyw) am eu caredigrwydd teuluaidd pan ddeuent i bregethu i'r Hen Felin, tŷ cyfagos i'w trigle yn mhentref Llanystumdwy; a buont yr offerynau mwyaf grymus ac effeithiol i gael addoldy uewydd perthynol i'r enwad yn y pentref. Symudwyd Mrs. Jones o'r byd cyn gweled y tŷ hwn i Dduw wedi ei orphen yno. O'r teulu hwn yr hanodd Mrs. Ellis. Bu iddynt lawer o blant; ond chwech o honynt a dyfodd i oedran. Aeth un o'r bechgyn i'r Gorllewin-fyd, ac yno tebyg y bu farw. Mae tri brawd ac un chwaer etto yn fyw ar ol ei marw hi. Ni bu dim yn neillduol yn nyddiau ieuenctyd gwrthddrych ein Cofiant o sylw; yr oedd o duedd chwarëus a llawen, a blaenorai yn gyffredin ar ei chyfoedion mewn chwareuyddiaethau, er peri llawenydd a digrifwch yn y cwm- peini. Cafodd y ddamwain o dòri ei braich wrth ddringo am yr uchaf gydag eraill i frigyn coeden, trwy gwympo i'r llawr; ond gwellâodd yn fuan. Arferai fod er yn blentyn yn yr ysgol ddyddiol yn y pentref; ac wedi tyfu i oedran cymhwys, anfonwyd hi oddicartref am raiblynyddoedd i Pwllheli, Caernarfon, ac yn ddiweddaf amflwyddyn i Gaerlleou i orphen ei haddysg, yn ol defodau y blynyddoedd hyny. Yr oedd o feddwl cyflym, deall bywiog a gafaelgar, ac o synwyr cyffredin cryf; felly cyrhaedd- odd wybodaeth led helaeth o elfenau dysgeidiaeth mewn amryw ganghenau o honi, fel yr yetyrid hi wedi cael cyflawn