Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MEHEFII, 1850 COFIANT MR, EDWARD ELLIS, O'E CELYN, GER IREFFYNNON. "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." Y mae perffeithrwydd ac uniondeb bywyd yn diogelu marwolaeth dangnefeddus. Gall y Cristion gyfarfod llawer o ystormydd, a myned trwy lawer o helyntion digon blin ar daith ei fywyd, ond caiff farw mewn tawelwch. " Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi," ebe Crist. Yr hyn a roddwyd gan Grist, a fwynheirgan ei ddysgyblion. Ganwyd Mr. Edward Ellis yn y Rhos Goch, ger Caerwys, yn y flwyddyn 1782. Ei rîeni oeddynt Edward a Margaret Ellis o'r lle uchod. Nid oeddynt mewn am- gylchiadau gwych o ran eu sefyllfa fydol; ond ymdrechent, gyda gofal canmoladwy, i fagu teulu lluosog o blant mewn diwydrwydd a gonestrwydd. Gwrthddrych y Cofìant hwn oedd yr hynaf o'r plant. Cafodd y fraint o fyned i ysgol ddyddiol pan yn dra ieuanc, o dan ofal gwr o'r enw Mr. Saunders, yn Caerwys. Yn yr ysgol hon dysgodd ddarllen ac ysgrifenu, a medrai rifyddeg yn lled rwydd. Ymddengys iddo dreulio dyddiau bor- euol ei oes yn lled afrywiog. Yr oedd yn llanc cryf a heinif o ran ei gorff, bywiog ei feddwl, a siriol iawn ei dy- mher. Hoffai yn fawr, ac arferai yn awchus, y chwareuon cynnefìn yn yr ardal hòno, ac mewn ardaloedd eraill, yr amser hwnw ; a buan yr ystyrid ef yn gampwr ac yn flaenor. Y pryd hyny arferai ieuenctyd ymgasglu at eu gilydd i ddangos eu gorchestion; edrychai hynafgwyr arnynt gyda Uouder; ni phetrusent dreulio rhan fawr o ddydd yr Arglwydd gydag oferedd; ac nid oedii neb a'u rhybuddiai o'u drwg ac o'u perygl. Aent i'r gwasanaeth plwyfol y bore, a dychwelent oddiyno i dreulio y prydnawn mewn cauopau a chwareuon. Pan o gylch ugain oed, dygwyddodd iddo fyned i gapel y Trefnyddion Calfin- aidd yn Nghaerwys i wrando ar draddod- iad pregeth. Pwy oedd y pregethwr, beth oedd y testun, a pheth oedd sylwedd y bregeth, sydd bethau nas gwyddom. Anhysbys i ni hefyd ydyw y modd y tueddwyd ef i fyned i wrando y tro hwnw. Ond yr oedd gan Dduw ddyben daionus tuag ato, a medrodd weithio y dyben hwnw i gyflawniad. 13u yr oedfa hon o fendith dragwyddol i'w enaid. ' Gwelodd yr Arglwydd yn dda "agor ei galon i ddal ar yr hyn a leferid," ac i deimlo yn briodol bwys a gwerth " geiriau gwirion- edd a sobrwydd." Achosodd hyn gyf- newidiad mawr ac amlwg yn ei agwedd a'i fuchedd. Daeth wedi hyn yn "gre- adur newydd," wedi ei "grëu o newydd i weithredoedd da yn Ngbrist Iesu.'' Dododd yr " hen bethau heibio," ac ymaflodd "yn y peth hwn yr ymaflwyd ynddo gan Grist Iesu." " Yn y fan nid ymgynghorodd à chigagwaed;" ffurf- iodd benderfyniad heb oedi; ymwasgodd at yr ychydig ddysgyblion oedd yno y pryd hwnw, o dan deimlad dwys o'i anghen a'i drueni fel pechadur; a glyu- odd yn ei broffes yn gyson trwy holl brofedigaethau ei oès. Nid yw Duw yn goleuo canhwyllau i'w dodi o dan lestri i'w cuddio. Y can- hwyllau a oleuir ganddo ef, a oleuant bawb fyddo yn y tỳ. Llewyrchant ger