Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. M A I , 18 5 0, COFIANT MR, GRIFFITH WILLIAMS, AMLffCH. " Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog." lln o rai rhagorol y ddaear, yn ol barn y rhai a'u hadwaenent, oedd gwrthddrych y nodiadau a ganlyn. Yr oedd G. Williams yn fab i William a Mary Griffitb, o'r Alltwiail, plwyf Llanor, ynLleyn, y rhaioeddyntaelodau o'r Eglwys Gynnulleidfaol yn nghapel Penlan, Pwliheli. Yr oedd G. W. wedi cyrhaedd gradd werthfawr o wybodaeth grefyddol, yr hyn oedd yn ei wneud yn aelod defnyddiol yn y gymdeithas; ac yr oedd gan yr eglwys yn Mhenlan, a'r gweinidogion, olwg barchusarno, fel yr ymgynghorent ag ef mewn achosion pwysig, a phrofent ddiogelwch a chysur o hyny. Ganwyd G. W. gwrthddrych y Cofiant hwn tua'r flwyddyn 1787. Wedi iddo fwynhau y fantais wertbfawr o rai blyn- yddau o ysgol ddyddiol yn ei ieuenctyd, dygwyd ef i fyny i'r gelfyddyd o saer llongau, yn yr hyn yr oedd wedi cyr- haedd gradd helaeth o wybodaeth a medrusrwydd. Dilynodd eialwedigaeth gyda diwydrwydd am flynyddau yn ewyddi Caernarfon a Meiríon, (oblegid un o'r rhai diesgeulus yn ei orchwyl oedd efe); ac arweiniwyd ef tua'rflwydd- yn 1824 i Amlwchi arolygu ei gelfydfiyd, ac yn y sefyllfa hon, yr oedd ei feistri yn eí gyfrif yn deilwng o'r ymddiried penaf; ac edrychai y gweithwyr arno yn deilwng o barch ac ufudd-dod. Dyg- odd lawer o ieuenctyd i fyny i'r gelfydd- yd, fel y dywedai mewn dull siriol ych- ydig cyn ei ddiwedd, pan yr oedd amrai o honynt o'i gwmpas, "Awelwch chwi fy mblant i;" ac yr oedd eu galar a'u cwynfan ar ei ol yn dangos eu bod yn edrych arno fel eu tad yn eu celfyddyd. Yr oedd efe hefyd yn nodedig barchus gan y gymydogaeth oll. Mae yn llawen genym hefyd hysbysu mai nid gyda phethau y bywyd hwn yn unig y bu gwrthddrych ein Cofîant yn ddefnyddiol, ond cafodd y fraint o agor drws ei dý ei hun i'r efengyl ar dde- chreuad yr achos yn Nefyn; a phan yr amcanwyd sefydlu cymdeithas grefyddol yn y lle, aeth allan yn ol eiarfer o'r oedfa gyhoeddus gyda'r cyntaf; ond dychwel- odd yn fuan at y gweinidog, a dwy neu dair o chwiorydd ag oedd yn yr ystafell yn dechreu y gymdeithas grefyddol yn rnysg yr Annibynwyr yn y dref hòno. Eisteddodd y tro hwnw, (fel y dywedodd un ag oedd yn bresenol wrth yr ysgrifen- ydd) wrth y drws, ac un troed oddiallan i'r rhiniog; ond cafwyd arwyddion heh fod yn hir, fod nid yn unig yr holl gorff, ond ygalon hefyd wedi eirhoddi ganddo i'r Arglwydd ac i'w bobl; oblegid, mor wir ac iddo ddyfod i mewn, ni bu yn eegur nac yn ddiffrwyth, ac aîlan nid aeth efemwyach; ondcafodd yr anrhyd- edd o fod yn ffyddlon hyd angeu wedi ei ddyfod i Amlwcb: bu yn un o'r colofnau dan yr aobos crefyddol; yr oedd ei ddrws yn agored i dderbyn gweision yr Ar- glwydd ; bu yn un o'r prif offerynau i ddwyn yn mlaen yr addoldy newydd, yr hwn yr oedd angen mawr am dano yn y He; yr oedd yr Ysgol Sabbathol yn wrth- ddrych ei ofal a'i lafur ffyddlon a gwas- tad trwy y blynyddao. Yr oedd efe yn ddigon gostyngedigifod gyda y dosbarth isaf; ond byddai ei gydathrawon yn mynych osod arno yr arolygiaeth, yn yr hyn, fel yr oll a gymerai mewn Ilaw, yr