Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MAWRTH, 18 5 0, BYWYD AC EGWYDDORION WYCLIFF. Gormesion Pabaidd—Wycliffyn gwrthsefyll y Oardotwyr—Ei Anrhydedd—Yn amddiffyn yBrenin— Ei osod yn Gadeirdraw Duwinyddiaeth—Ei Athrawiaethau—Dadl Babaidd—Gofyniad ar Edward III.—Deddf Dirwy a Charchar—Wycliff yn y Llys Pabaidd—Cyllidau Pabaidd o Loegr— Wycliff yn cyhoeddi y Pab yn Anghrist—Yn cael ei Erlid—Efe yn Cyfieithu yr Ysgrythyrau— Ei afiechyd—Ei Holiad yn Rhydychain—Ei Farwolaeth—Ei Gymeriad—Ei Ddaliadau. Aswyeodaeth a choelgrefydd a ordoai Loegr yn y cyfnod hwn; ac Ewrop oedd yn cael ei dal mewn caethiwed eglwysig, gan fod Pabyddiaeth yn awr wedi cyr- haedd ei uchder mwyaf. Tystiolaetha y Doctor Southey am yr unbenaeth Rufeinaidd fel y canlyn:—" Yn ol y canonau yr oedd y Pab gymaint gor- uwch yr holl frenhinoedd ag ydyw yr haul yn fwy na'r Ileuad. Efe oedd brenin y brenhinoedd, ac arglwydd yr arglwyddi, er ei fod yn enwi ei hun yn was y gweision. Fel brenin goruchaf, gallai osod trethi ar yr holl Gristionog- ion; ac hysbysai ei fod yn ei ddal fel pwnc angenrheidiol er iachawdwriaeth i bob dyn fod yn ddeiliad i'r Penaeth Rhufeinaidd! Y gallai efe yn gyfreith- !on ddiorseddu brenhinoedd, a sicrheid ganddo fod hyn mor gywir fel nas gellid oi wadu gan neb ond gwallgofiaid, neu drwy gynihelliad y diafol. Mai priodfab yr eglwya oedd yr Is-dduw; a gorchyui- ynwyd i ddynion blygu i'w enw, megys i enw Crist; ac yr oedd y brenhinoedd mwyaf yn gweini iddo fel gweision teulu- aidd, i dywys ei farch wrth y ffrwyn, a dal ei warthafl pan ddisgynai; ac yr oedd y prif genhadau yn ymgrymu ger ei fron, gan ddywedyd, 'O tydi, yr hwn wyt yn tynu ymaith bechodau y byd, trugarha wrthym!' Yr oedd pleidwyr yr awdurdod Babaidd yn cyhoeddi y gallai efe newid natur pethau, a gwneuthuranghyfiawnderyngyfiawnder. Nas gallai fod yu gyfrifol i un awdurdod wladol, am ei fod wedi cael ei alw yn Dduw gan Constantine, ac nad yw Duw i gael ei farnu gan ddyn. Fod iachawd- wriaeth yr holl ffyddloniaid, dan Dduw, yn ymddibynu arno ef, ac hyd yn oed esbonwyr a roddent iddo ef yr enw cabl- eddus, 'Ein Harglwydd Dduw, y Pab.' " —Booh ofthe Church, vol. i. p. 322. Yr ormes hon gan yr unbenaeth a gefnogwyd gan luoedd o bob graddau o fynachod, drwy ofyn cydffurfiad â def- odau a gosodiadau y Pab, pan gyfododd Ioan Wycliff yn Lloegr, yr hwn oedd yn ddyn anghyffredin, ac yn deilwng i gael ei alw yn "Seren foreu'r Diwygiad." Efe a anwyd yn agos i Richmond, swydd Gaerefrog, yn y flwyddyn 1324, ac a fa yn myfyrio yn Ngholeg Merton, Rhyd- ychain, yn 1340, naw mlynedd cyn marw Bradwardine; ac ymddengys iddo fwynhau addysgiadau a siamplau yr athraw dysgedig hwnw. Dan ddylanwad awdurdod mor uchel, ymroddodd i chwilio yr ysgrythyrau; a chan frawychu o herwydd llygredigaeth- au eglwysig amlwg, yn 1356, efe a gyhoeddodd ei waith, yr hwn a alwai, " Oes ddiweddaf yr Eglwys," yr hyn a lanwodd y mynachod o ddigofaiut yn ei erbyn am iddo ddynoethi eu drygau. I'r dadleuon a ddilynodd hyn y priodolir Ilawer o'i ddiysgogrwydd canlynol yn ngwaith y diwygiad. Cyffrodd ei res- ymau y cardotwyr, y rhai a ffoisant i amddiffynfa Pabyddiaeth, gan ddodi eu cwynion o flaen y frawdle archoffeiriadol. i .