Skip to main content

Y DYSGEDYDD. CHWEFROE, 1850, F Y M A M, Y DIWYGIAD—ARGYHOEDDIAD—SEFYLLFA MORWYNION—EI PHRIODAS—Y PLANT. Y R AIL RAN. Pan oedd fy mam o gylch un mlwydd ar by mtheg oed, tòrodd diwygiad grymus allan yn y Dala. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yr oedd yn gwrando gyda'r Annibynwyr y pryd hwn. Gweinidog y Bala ar yr adeg hon oedd y Parch. William Thomas, gynt o Hanover. Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr dysgedig, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau i'r iaith Gy- mreig. Dichon ei fod bron yn rhy ryddfrydig i'w amser, ac ni bu ei weini- dogaeth yn rhydd oddiwrth ofidiau chwerwon. Gallwn feddwl nad oedd arferion a theimladau Mr. Thomas yn ei gyfaddasu yu neillduol at y fath ddi- wygiadau ag a gymerent le yn yr amser- oedd hyny. Yn inysg plant y Diwygiad, rhifid fy mam. Teimlodd nerthoedd y byd a ddaw. Ymaflodd " rhywbeth" rhyfeddol ynddi. Llanwodd hi aganobaith, nes y penderfynodd roddi terfyn ar ei hoedl. Aeth allan gyda'r bwriad o daflu ei hun i'r afon ryw noswaith. Nid oedd, yn ei thyb hi, ddim trugaredd iddi gyda Duw, a phenderfynai beidio dangos dim iddi ei bun. Yn yr artaith meddwl hwn, gorweddodd rhwng dwy gàreg fawr ar ganol cae cyn cyrhaedd ceulan yr afon. Bu yn y sefyllfa hon am hir amser, nes y clywodd, neu y tybiodd glywed rhyw lais yn dweyd wrthi, " Deffro di yr hwu wyt yn cysgu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a oleua i ti." Ysgafn- haodd byn ei baich yn uniongyrchol. Aeth tua'r tŷ dan wylo yn drwm, ac ymdrechai ymguddio dan y bwrdd nes i'r teulu fyned i orphwys. Cafodd fodd- lonrwydd i'w meddwl yn raddol, ac yn Tachwedd, 1790, derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan Mr. Thomas. Os gofynir i mi roddi cyfrif am y teimladau a ddysgrifir uchod, rhwydd gyfaddefaf nas gallaf wneud dim o'r fath. Dywedwyd wrthyf am ormod o bersonau a deimlodd yn gyffelyb i mi anturio gwadu eu bodolaeth; ond gan na theimlais ddim yn gyffelyb fy hunan, nis gallaf eu hesbonio. Nis gallaf farnu eu bod yn angenrheidiol er gwir dròedig- aeth; etto, gall y cyfryw dröedigaeth fod yn gydfynedol à hwy. Dichon mai amgylchiadau yr oes ydyw yr allwedd a'u hegyr yn oreu ger ein bron. Yr oedá yr oes hòno yn anwybodus ac yn ofer- goelus. Mae pobl anwybodus ac ofer- goelus bob amser yn hawdd eu dychrynu. Ofn ydyw un o'r cynhyrfiadau grymusaf yn eu mynwes. Os deffröir ofn, deffröir lleng o deimladau dychrynllyd ar ei ol. Yn y dyddiau hyny, nid "cân cariad, hyfrydlais un yn canu yn dda," oedd y weinidogaeth. Mwg, mellt, a tharanau ydoedd. Ni byddai un oedfa yn arddel- edig heb "sain udgorn, a llef geiriau." Pregeth sychlyd oedd hòno pryd na byddai "y mynydd yn Ilosgi gan dân," ac yn crynu yn ofnadwy iawn. Hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Cafodd Howell Harris, a Rowlands, a'u cydoeswyr, y bobl yn ymdroi mewn anwybodaeth echrys, ac annuwioldeb dychrynllyd. Rhybuddiasant hwy i ffoi am eu heinioes tua Soar, cyn y byddai dinas dystryw ynwenfflam. Ateboddhyny dyben. Ym- drechodd olynwyr y gwýr da ddwyn y