Skip to main content

Y DYSGEDYDD. IONAWE, 18 5 0, F Y M A M , EI DYDDIAU BOREUOL—ADGOFION EGLWYSIG—ADDYSG—"Y BIBL COCH." CAN IEUAN CWYNEOD. Caled ydyw calon, a rhewllyd ydyw mynwes y plentyn yr hwn a eill edrych ar fedd ei Fam yn ddigyffroad. Trom yw sefyllfa yr hwn nis gall hebgor rhyw gyfran o'i enaid i drysori coffadwriaeth yr hon a'i hymddug, ac a oddefodd holl bangau merthyrdod mamolaidd er ei fwyn cyn iddo agor ei lygaid ar oleu dydd. Anfynych iawn y mae un fam heb gyfiawni miloedd o weithredoedd serchus, y rhai a deilyngent i'w henw gael ei ddwfn gerflo ar lechi cnawdol y galon. Hanes y fam i raddau helaeth ydyw hanes y plentyn. Yn y cyffredin, hi sydd yn ffurfio y tueddiadau y rhai a ddadblygir mewn blynyddoedd dyfodol. Yn sefyllfa bresenol Cymru, y mae pob peth perthynol i'r cymeriad mamaidd o bwys; a hyderir y gall rhai o ferched a mamau ein gwlad dderbyn ychydig lesâd oddiwrth y crybwyllion canlynol am fy mam; ac efallai na bydd y cofion eglwysig y cyfeirir atynt yn annerbyniol i'r cyffredin. Yr oedd rh'ieni fy mam yn dlodion. Nid oedd ganddyntddim ifywarnoond llafur eu breichiau. Priodasant yn ieuanc, a bu iddynt lawer o blant. Y maent ill dau yn gorwedd yn agos i fedd Llywarch Hen, yn mynwent Llanfor, gerllaw y Bala, lle y ganwyd, y priod- wyd hwynt, y buont fyw, ac y buont feirw. Hunant yn dawel gyda'u tadau. Fy mam oedd eu cyntafanedig. Gan- wyd hi Mawrth 18, 1773. Gwneid cymaint o groesaw i'r ddyeithres fach ar y pryd ag a allai teulu y dyn tlawd ganiatâu. Yr oedd Dafydd Zaccheus mor hoff o'i eneth fechan a phe buasai yn iarll neu ardalydd, ac nid llai oedd llawenydd ei wraig Gwen, na phe y gwisgasai goron duces ar ei grudd. Ni roddodd Duw gyfoeth i'r holl hil ddynol, ond rhoddodd serch i bawb. Amser lled isel ar grefydd oedd dyddiau boreuol fy mam. Yr oedd Dafydd Zaccheus yn Fethodist gwresog, ac yn ddyn da, arafaidd, a duwiol. Yr oedd ei wraig yn myned i'r Eglwys Wladol y pryd hwnw, ac felly y parhaodd drwy ei bywyd. Feliy yr oedd ei mam o'i blaen; ac nid oedd lle i ddysgwyl iddi ymadael heb " deimlo nerthoedd y byd a ddaw," gan eu bod yn byw dan nodded teulu y Rhiw- las, y rhai sydd wedi bod yn nodedig, er dyddiau Siarl II. am eu hymlyniad wrth Eglwys y Llywodraetb, a'u gwrthwyneb- iad i'r eglwys ysbrydol. Yn y fl. 1774, galwyd fy nhaid (tad cu, mewn iaitb fwy mursenaidd) gyda y meiwyr Ileol (local militia), i Ddolgellau. Beth a arweiniodd y gwr da i wisgo y dillad cochion sydd anhysbys i mi. Tebyg mai ei dynu a gafodd, a'i fod fel dyn tlawd yn rhwym o sefyll, gan nas gallai dalu i neb am sefyll yn ei le. Gwyddom, pa fodd bynag, nad oedd ar delerau rla ag arferion milwraidd. Er fod y meiwyr yn gorfod gwisgo dillad cochion, yr oeddynt dan anghenrheidrwydd o wŷn-lychu (to powder) eu gwallt, nes y byddai eu penau yn berffaith wynion. Nid oedd y drin- iaeth hon yn cydweddu mewn un modd ag arferion a theimladau fy nhaid. Yr oedd y llwch yn disgyn i'w lygaid, a'i glustiau, a'i war, nes peri iddo deimlo yn dra anghysurus. Un diwrnod yn Mai, pan yn dralluddedigar farian Dolgellau,