Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 191.] HYDREF, 1837. [Cyp. XVI. BUCHEDD EI DDIWEDDAR FAWRHYDÍ GWILYM IV. (PARHAD O'N RHIFYN DIWEDDAF.) PìlESENNOLDEB y Brenin yn rhedegfaau Ascot-heath yn 1832, a hvnodvvyd gart ddigwyddiad braw- ychus a gofidlawn. Nid oedd y cyfarfod Ddydd Mawrth yn debyg i lawn, ond yr oedd y cymdeithion breninol yn lluosog a rhwysgwych anarferol. Ar ddiwedd y rhedegfa gyntaf, yr oedd y Brenin a'r Fren- ines, ac amryw o'u cyfeillion, yn ffenestry Llumman Breninol,pan yn ddisymwth >y dychlamodd a gwaedd- odd ei Fawrhydi, " O Duw, yr wyf wedi cael fy nharaw '." Oddiwrth y waedd, a'r cyffro a ddilynodd, yr oodd yn debyg fod y Brenin yn tyb- ied ddarfod iddo gael ei daraw â bwled. Mawr oedd cyuhwrf y cym- deithion breninol; ond rhoddwyd peu arno yn ebrwydd trwy i'r Brenin dynu ei het, a dywedyd yn uchel wrth y ll'iaws a'i hamgylchynai, nad oedd efe wedi caeì dim niwaid. Can- fyddwyd fod yr ergyd wedi ei dder- byn oddiwrth garreg a dafiesid o ganol y dyrfa gyda nerth mawr, canys yr oedd tolc dwfn yn het ei Fawrhy di. Wedi ychydig fynydau \ llamodd y Brenin yn mlaen eilwaith, | ac a ymddangosodd i'r bobl, y rhai | a'i croesawasant gyda gorlawenydd. Y bendefiges Errol, pan aeth y braw cyntaf trosodd, ac y mynegodd y Brenin na chawsai ddim niwaid, a dorodd allan i wylltnwyd o ddagr- au; eithr ymddygodd y Freuines trwodd gydamawr ddiysgogrwydd a phresennoldeb meddwl. Daliwyd y troseddwr, a chanfyddwyd mai mor- filwr wedi ei droi i ffordd o'r gwas- anaeth oedd efe, o'r enw Dennis Collins. Profwyd ef am deyrn-frâd, a chan gael o hono ei fwrw yn euog (er yr hyn oli a gynhygiwyd yn ei amddiffyniad) derbyniodd ddedfryd ofnadwy y gyfraith; yr hon, pa wedd bynag, a newidiwyd i alltud- iaeth dros ei oes. Cyflwynwyd cyf- archiadau ar yr achlysur, i'wFawr- hydí, oddiwrth ddau Dŷ'rSenedd, Cynghorfa Gyffredin Llundain, a'r ddwy Brif-ysgol. Hynodwyd misMehefiu 1834, gan ymneillduad Tad y Diwygiad, ArgU Grey, o'i uchel-swydd a'i fywyd cyhoedd. Yr achos.union-gyrch o'i ymddiswyddiad oedd gwahaniaeth barn yn y dirgel-gyngor yn mherth- ynas i'r Ysgrif Gymhell Wyddelig, ac arweiniodd yr un achos i ymneill- tuaeth Arglwydd Althorp. Yr oedd y Toriaid etto yn dra diwyd a phrysur, a gwnaethant bob ymgais i gam-dywys y Brenin yn nghylch agwedd y pleidiau gwrthwynebol yn y llywodraeth, er mwyn llwyddo gyda'i Fawrhydi i'w hail-alw hwynt i'w gyngor, neu o leiaf i balmantu'r ifordd at y torthau a'r pysgod, trwy iì'urfiad dirgol-gy ngor cymmysgryw. Eithr, er ei fod yu llafurio dan yr aufantais o gael ei amgylchynu gan