Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 187] MEHEFIN, 1837. [Cyp. XVI. COFIANT MR. WILLIAM PRICHARD O LASFRYNMAWR. CyDUNA llawer â myfi i ddywedyd fod ysgrifenyddiaeth yn nu o'r eelfyddydau mwyaf defnyddiol a fedd dynolryw, ac mai nid yn hawdd y gellir defnyddio yr ysgrifell at orchwyl mor glodfawr a throsglwyddo a lledaenu hanesion am dduwiolion ymadaw- edig; cyhoeddiadwyn argof i'n cydoesolion a'n holoesolion, trwy gymhorth yr ysgrifell a'r argraffwasg, y mawr erlid a'r anmharch a ddyoddefodd ein hynafiaid o herwydd eu bod yn parchu gair a thystiolaeth lesu Grist, yn nghyda'u mawrsel,eu ffyddlondeb a'u hamynedd yn wyneb y mawr erlid a'r mawr anmharch a gyfarfuasant. Y mae luedd yn nhrosglwyddiant o'r fath i ymlid ysbryd claiar adifraw allan o Seion, i feith- rin duwiolfrydedd yn mynwesau preswyl- w.Vr y tŷ, ac ' gynhyrfu llawer i fwyhau a chwanegu eu hymdreehion yn y filwriaeth ysbrydol. Ganwyd Mr. W. Prichard yn Mryn-yr- hydd, plwyf Llanarmon, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1702. Ni chefais un hanes neillduol pa fodd y treuliodd y rhan foreuaf o'i oes, ychwaneg nag iddo gael mwy o addysg nag y mae plant yn gyffredin yn ei gael yo y wlad hon yu awr. Ryw amser ar ol iddobriodi symudodd o Fryn-yr-hydd i Lasfrynmawr, yn mhlwyf Llangybi. An- mherchid dydd yr Arglwydd yn fawr yr amser hwnw yn ỳ wlad hon ganlawer, trwy fyoed i'rgwestdŷ arol addoliadpryduhawn- ol y Llan i yfed a gloddesta, W. Prichard wrth ddyfod adref ar ryw nos Sabboth o'r gyfeddach, wedi arosyn hwy nag arferol, a gollodd y ffordd, ac wedi iddo ymdroi ychydig yn ol ac yn mlaen, canfu ryw oleuni, a thynodd tuag ato ; adnabu y lle yn 21 fuan, mai Pencaenewydd ydoedd. Gwnaeth ail a thrydydd gynnyg i fyned adref, ond crwydro ryw fodd yr oedd, gan droi yma ac acw, a dychwelyd yn ei ol bob tro i'r un fan : erbyn hyny dechreuodd y gwr brudd- hau, ac cfe a aeth yn mlaen, gan edrych trwyddi, pan y deallodd fod gwr* y tŷ yn darllen pennod, y 25ain o Efengyl Matthew ; ac ar ol gorphen darlleu esboniodd a chy- mhwysodd rauau o'r bennod at y teulu, ymostyngodd ar ei liniau mewn gweddi at yr Arglwydd. Yinaflodd rhywbeth yn ddifrif-ddwys yn meddwl y gwr oedd yn y tf'euestr, wrth ystyried nad oedd ef un amser yn gweddi'o gyda'i deulu. Ond uid hir y bu yntau heb ymaflyd yn yr un gor- chwyl, athrwy ei ymarweddiad teilwngo'i weddiau difrifol ennillẃyd dau o'i weisiou yn fuan i garu gwir grefydd. Daeth nn Jenlcyn Morgan, Ymneillduwr, i gynnyg cadw ysgol yn mhlwyf Llangybi. Buwyd yn erfyn tì'afr offeiriad y plwyf i roddi y Llan iddo i gadw ysgol, ond gwrthododd ei roddi ar gyfrif yn y byd. " Wel," ebai W. Prichard, "osoes genych chwi hawl ar eich Llan, y mae genyf finauhawl ar fy nghegin, caiffhòno i gadw ysgol ynddi." Ac felly y bu. Cyn^horai ac egwyddorai yr ysgolfeistr blant a rhai mewn oed yn yr ysgol, ac ûi i leoedd yn y gymmydogaeth i'r perwyl hwnw, a thebygol i'w lafur fod o fawr les i lawerocdd yn yr ardai Yr oedd drws y * Francis Evans o (jae'rtyddyn (wedi hyny) ydoedd y gwr oedd tn darüen pennod. Gŵyr y rhan fwyaf o'r hen Weinidogion perthynol i'r Âri- nibynwyr am Gae'rtyddyn, wrth y Capelhelys, lle y bu ugeiniau o Gcnliadon hedd o Dde a Gogledd yn cael amgeledd ar eu teithiau wedi hyny.