Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 186.] MAI, 1837. [Cyp. XVI. COFIANT MRS. JANE DAVIES, O LANBRYNMAIR. GwRTHRYCH y cofiant hwn oedd ferch i John ao Ann Bennett, y rhai oeddynt yn byw y pryd hwnẃ mewn lle a elwir Pris- 0U'en?n/7, rhwng Llanbrynmaira Llanerfyl; ond symudodd ei thad pan ydoedd ynieuanc i blwyf Carno. Yr oedd efe yn frawd i Benjamin Bennett, yr hwn a fu yn ddiacon yn Ngharno ar ol fFnrfio eglwys j'no hyd ei farwolaeth. Yr oedd ei mam yn chwaer i Thomas F.dward, Cwmderwen, sef tad i wraig y Parchedig Ceerg-e Roherts sydd yn America, gan ei bod hî yn hynaf o wyth o blant, aeth at ei hewythr Thoma* Edward pan yn lled ienanc. Bu am flynyddau yn y ♦puhi hwn, ac wedi hyny yn golygu t5T hen ŵr eyfrifol oedd yn byw yn Nçharno, hyd nes i'w fab briodi. Daeth oddiyno at fy ewythr i Hafodyfoel, Ile y magesid fymam. Ennillodd ei pharch yn neillduol yno, a gwnaeth fy mam sylw mawr o honi, fel y dywedodd wrthyf, os awn byth i ymofyn am gymhares bywyd, mai un o'r fath a wnai les i mi. Cymmerais yn lled ysgafn o'r cyngbor ar y cyntaf, ond nid aeth o'm meddwl yn hollol; ac ar ol dechréu cyf- eillachu â hi, deallais ei bod o gynneddfau cryfìon, ond ychydig o ddysg a srafodd yn ei hienenctyd. Er e.i bod hì a minau o deulu crefyddol, ctto cefais fwy o fanteision na hi yn moreu fy oes. Felly trwy fod fy ewythr o Hafodyfoel, a'i wraig, sef merch Mr. Tibboí, yn fawr eu golwg arnom, cawsom aoiiogaeth i fyncd i gwlwm priodasol, er nad oodd genym fawr ond ein hymdrech ac ymorphwỳs ar Rag'luniaeth, etto wynebu ar fyd o yàtormydd a wnaethom yn lled í'oreu, a chawsom ofal yr Arglwyddyn fawr tuajj atoni, am yr hyn y buom ddiolchgar 17 yn ein meddwl ac yn ein hymddyddanion hefyd. Bu wyth o blant i ni. Y mae tri wedi marw yn eu hieuenctyd. Bu John ein mab hynaf, sydd yn awr yn Nghaerfyrddin, yn cydorwedd a'i fam 16eg o wythnosau mewn clefyd trwm, ac nid oedd fawr o obaith am eu gwellhad. Bu ef dairwythnos heb archwaethu dim bwyd, na dywedyd un gair; ac hefyd yr oedd ei fam yn glaf iawn. Ÿr oedd yn amser galarus neillduol arnom, ac yroedd fy ngalwad inan i fyned oddicartref, fel y byddwn amryw ddyddiau heb eu gweled. Cefais inau y clefyd, abnm 8 wythnos yn rhy wan isefyll ar fy nhraed, er fy mod yn codi bob dydd. Yr ydwyf yn credu mai y driniaeth a gefais, yn nghydag ewyllys yr Arglwydd, oedd yr achos i mi ei gael mor ysgafn. Cafodd y plant ereill y clefyd, a bu un o honynt farw, yr amser hwnw. Cawsom bob caredigrwydd o law dynion, yr hyn sydd ì'w briodoli i Dduw yn benaf, yr hwn sydd wedi fy ngosod yn nghanol fy mhobl, a'm Uenwì á lluniaeth a daionj. Cawsom iechyd da dros amryw flynyddau, a buom yn Iled lafurus yn ein galwedigaeth i ddwyn 5 o blant i fyny, ac I adeiladu cymmaint ag sydd genym, yn ! nghydag ateb i alwad y wlad, yr hyn oedd i yn gryn ymdrech, ac a barodd i gwsg gilio I am lawer noswaith; ond os oedd fy llafur i | ÿn fawr wrth fyned ar hyd y wlad gyda'r gweithwyr, &c. nid llai oedd ei llafurhithau gartref wrth ofalu am o 12 i 14 o dylwyth y rhan amlaf, yn fwyd ac yn ddiilad, fel na but dim gofa! arnaf am ddim tu fewn i'r tŷ, na hyny o greaduriaid chwaith oedd genyro. Ar ol adeiladu y tŷ annedd sydd genym, neillduaia ran o hono ì werthu eiddo shop