Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 181] RHAGFYR, 1836. [Cyf. XV. SYLWADAU AR Y GWIR. Seize upon truth where'er 'tis found,— Among your friends, aniong your foes ; On Christian, or on Heathen ground, The fiower's divine where'er it grows; Avoid the pricẀes, and assume the rose___WATTS. UN o'r prif rinweddau a gymmeradwyir gan yr Arglwydd y w gwirionedd, ac un o'r pechodau ffieiddiaf yu ei olwg ef yw cel- wydd. Gelwir ef yn " Dduw'r gwirion- edd" yn yr hwn nid oes un twyll; ac fel y inae ei gyfiawnder yn ein rhwymo i barchu bob peth a gyfìawnodd, y mae ei wirionedd yn ein rhwymo i gredu pob peth a lefarodd. Y diafol a elwir yn "dad y celwydd," ac efe oedd y cyntaf a wrthwynebodd y gwir. Gwelir gan hyny mai un o'r perlau dyscleir- iaf yn nghymmeriad dyn fel creadur rliesymol ydyw, ei fod yn ddyn gonest a g-eirwir—yn ddyn awyddgar i wybod a llefaru y gwir—yn ddyn parod i gredu Duw, ac i anghredu y diafol. Y mae geirwiredd yn flodeuyn a ymddengys yn hardd, ac a arogla yn beraidd yn mhob cymdeithas. Pa un bynag gan hyny ai ysgrifenu neu ddarllen, llefaru neuwrando, y byddom, dylem bob amser ymestyn at y gwir. Er y dywedir fod "llawer gwiryn dtlai'w gelu," y mae yn amlwg mai nid o herwydd ei fod yn tẅ y dylid ei ddirgelu, ond o licrwydd yr effeithiau anhyfryd a ddiehon ganlyn y cyhoeddiad o hono. Dyl- ein ochelyd celwydd o herwydd ei fod yn gelwydd, hydyn oed pe meddyliem y byddai yn fanteisiol ei gyhoeddi; ond pan fyddom yn gorfod celu y gwir, nid wrth sylwi arno fel gwirionedd yr ydym yn gwneyd hyny, ond wrth ystyried teimladau neu amgylch- iadau ein cyd-ddynion, at ba rai y bydd y cyfryw wirionedd yn cyfeirio. Y mae gan bob dyn wendidau personol, ac y mae llawer o bethau annymunol gan ddynion i'w had- rodd am eu gilydd, y rhai nid yw yn addas bob amser eu cyhoeddi i'í byd, uid am nas 45 gellid gwneyd hyny heb dd weyd y gwir, ond am y byddai hyny yn debyg o glwyfo teimladau a dinystrio cysuron cymdeithas, Ni ddylid beio tystiolaeth wirioneddol un amser fel gwirioyicdd, ond geìlir beio dynion yn aml am gyhoeddi y gwir pan ddylent ei guddio. Y mae y gwir bob amser yn anrhydeddus, beth bynag fyddo ein hym- ddygiad ni wrth ei adrodd ; ac er na ddylid cyhoeddi y gwir bob amser, y mae yn amlwg na ddylid cyhoeddi dim un amser ond y gwir. Buasai pob peth a glywir neu a ddarllenid, pe nas gellid credu ei fod yn wir, mor ddiwerth i'r byd a chorff heb fywyd ynddo. Y mae grym a gogoniant pob tystiolaeth y» llwyr-ddiflanu, cyn gynted ag y proíir ei bod yn gelwyddog a thwyllodrus. Ein dyledswydd gan hyny yw dweyd y gwir wrth bawb, a'n braint hefyd yw derbyn y gwir oddiwrth bawb a'i hadroddant. Yn awr ymdrechir, I. Enwi rhaì o ragoriaethau y gwir. 1. Y mae bob a^ser yn onest. Y mae pob celwydd yn anonesf. Nid yw yn gwneyd cyfiawnder a neb, ond y mae yn gosod pawb a pbob peth allanmewn lliw anmhriodol, er mwyn dangoseubod yn well neu yn waeth nag y byddont. Y mae pob celwydd nid yn unig yn gwneydcam â'rgwrtbddrychau am ba rai y llefarir, drwy eu darlniiio yn angbywir, ond y mae befyd yn gwneuthur cam à'r personau urih ba rai y llefarir, drwy ymgynnyg at eu twyllo. Ond y mae y gwir yn ymddwyn yn gyfiawn tuagat bawb, y mae yn dangos pob peth mewn modd teg yn ei liw priodol; nid yw yn diraddio neb yn eu habsennoldeb, nac yn gwenieithio i neb yn eu hwynebau, ond y