Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 180] TACHWEDD, 1836. [Cyf. XV. COFIANT Y PARCH. JOB ORTON. GaNWYD Mr. Orton yn yr Amwyfhig ar y 4ydd o Fedi 1717. Yr ydoedd o deulu duwiol ileteugar i weinidogîon, a defnydd- iol yn y cylchoedd yr oeddynt yu troi. Gan hyny, fel y gallesid dysgwyl, dygwyd Mr Orton i fyny yn grefyddol mor bell ag y g-allasai esiampl a dysgeidiaeth wneuthur liyny. Anfonwyd ef yn ieuanc i ysgol ramadegol oedd yn ei dref enedigol, a bu yno am wyth mlynedd. Er fod ei brif dueddiad at y weinidogaeth, etto er mwyn iddo gael breinioldeb y dref rhwymwyd ef yn brentis gyda'i dad, yr hwn ydoedd siopwr. Yn y flwyddyn 1733, rhoddwyd ef dan ot'al y Parch. C. Owen, y pryd hwnw yn Warrington. Ar ol treulio ychydig amser yn y sefyllfa yma, pa le y derbyniodd lawer o fudd a hyfrydwch, aeth i ymweled â Mr. Calthurst, gweinidog defnyddiol yn yr Eglwys Wen, trwy gynghor yr hwn y tueddwyd ef mewn modd mwy neillduol i ymroddi i waith Crist. Oddeutu canol 1734, aeth i AthrofaNorthampton o dan ofal Dr. Doddridj», yn nhŷyr hwn y bu yn aros dros saith mlynedd : treuliodd y ddwy olaf i'w gynnorthwyo yn yr Athrofa: am dano ef yn y gorchwyl hwn dywedodd y Doctor, " Ni chefais un i'm cj'nnorthwyo a lafnrioddgyda mwyo ffyddlondeb, callineb, a llwyddiant." Yu ol arferiad yr amser hwnw holwyd Mr.Orton o flaen cyfeisteddwyr o weinidog- ion, ac wedi ei gymmeradwyo traddododd ei bregeth g-yntaf yn Welford, swydd Northampton, Ebrill 15, 1739, oddiwrth "Paul, gwasanaethwr Iesu Grist." Gwedi hyn byddai yn oynnorthwyo Dr. Doddridge yn rheolaidd y Sabbath cyntaf o'r mis, a phrydiau ereill pregethai yn aml yn yr ardal llebyddai eisiau cynnorthwy. Medd- ylir fod ei boblogrwydd y pryd hwn yn dra helaeth, o ganlyniad cafodd alwad gan eglwysi Welford, Rowel, a Marfcet Har- borough, i gymmeryd eu gofal. Yn fuan ar ol hyn cafodd wahoddiad i bregethu yn Salter's Hall, Llundain; ond y fath ydoedd ei barch i'w gydgynnorthwywr, a'r olwg oedd ganddo ar y sefyllfa yn mha un yr ydoedd mor barchus a defnyddiol, fel nad allodd dim hyd yma ei ddenu i'w gadael. Ond yr ydoedd cymhelliad grymusach yn ei aros yn ei dref enedigol, a achlysurwyd trwy farwolaeth Mr. Berry, Presbyteriad, a symudiad Mr. Dobson, Annibynwr. Yr oedd gan y ddwy gynnulleidfa y fath feddwl parchus am Mr. Orton, fel y darfu iddynt gynnyg uuo os cydsyuiai ef ddyfod yn weinidogiddynt. Boddiodd y cynnygiad yma ef gymmaint fel y darfu iddo ar ol dwys ystyried, a chael eymhelüadau taerion oddiwrthynt, gyduno â'u cais. Traddododd y bregeth gyntaf i bobì ei ofal ar y 18fed o Hydref 1742. Trwy far- woiaeth ei dad, yr hyn a ddyg-wyddodd yn mhen rais ar oí ei sefydliad, teimlodd yu ddwys, ac hefyd ychwanegodd nid ychydig at ei ofal. Gwaethygodd ei iechyd, ac er iddo i raddau wellâu wedi hyn, gwelwydyn fuan fod yn angenrheidiol iddo gael cyn- northwywr. Dewiswyd i'w gynnorthwyo Mr. F. Boult, yr hwn a symudodd iWrecsam yn 1745. Yn y flwyddyn ganlynol cafodd Mr. Orton wahoddiad i gydlafurio â Mr. Bourne yn Birmingham, ond fel yr ydoedd yn gysurus a defnyddiol yn yr Amwythig-,