Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 175.] MEHEFIN, 1836. [Cyf. XV. TRAETHAWD YN DANGOS VR ANGENRHEIDRWYDD O DDYLANWADAU GRASOL A PHENARGLWYDDIAETHOL VSBRYD DUW YN NGWEITHREDOL GADWEDIGAETH DYNION I FYWYD BYTHOL. rAN yn cynnyg profi gwirionedd y testyn uchod, nid anaddas fyddai syíwi fy mod yn deall wrth ddylanwadau grasol, y dylanw- adau hyny o eiddo yr Ysbryd Glan ar enaid dyn a atebant y dyben i ddwyn y deiliaid o o honynt yu weithredol gadwedig, neu yn weithredol i afael iachawdwriaeth dragy- wyddol, y rhai a raid fod o ran eu heffeithiad o'rtu allan i etìeithiad pob moddion a weinir tuagat ddynion. Wrth ddweyd eu bod yn benarglwyddiaethol y deallir, fod yr Ysbryd Glau yn gwbl rydd yn y gweinyddiad o honyut, fel nad yw yn rhwym mewn eyf- iawnder i'w gwcinyddu tuag at neb o'r hil ddynol, na chan neb yr un hawl iddynt, fel deiliaid llywodraeth, na lle i feio os yn amddifad o honyut, ond fod eu gweinyddiad yn hollol o drugaredd. Ac wrth weithredol gaduedigaeth dynion y deallir hyn, dygiad eneidiau i feddiant o wirionedd, ac i afael iachawdwriaeth a gogoniant tragywyddol. Credir genyf yn ddiysgog fod gan bob dyu, mewn oedran a synwyr cyíFredin, alluoedd eneidiol—fel galluoedd natur—i wneyd yr hyn oll y maeDuw yn ei geisio ganddo, a chan bob dyn gyflawn ryddid eneidiol i wneyd a fyno, a bod yr Ysbryd Glan wedi rhoddi moddion digonol a chymhwys i ddysgu pob dyn i wneyd ei ddyledswydd, a bod pob dyn dan y rhwymau mwyaf, ac iddo yr annogaethau cryfaf i iawn ddefnyddio y moddion hyn er ei dragywyddol iachawd- wriaeth. Onder y credir yn sicr yn modolaeth y petlirm hyn, a'u bod yn egfwyddorion han- t'odol i lywodraeth foesol y Duw mawr, ac yii seilian digonol ac anghyfnewidiol i gyf- rit'oldeb dyn, etto meddylir nad ydynt yn 21 milwrio yn y mesur Heiaf yn erbyn gwir- ionedd y testyn uchod, trwy ei fod yn gwneyddylanwadaugrasolaphenargtwydd- iaethol yr Ysbryd Glan yn afreidiol yn ngweithredol gadwedigaetb dynion. Medd- ylir hefyd na ddichon undyn deimlo yn ei cnaid yr un ysgogiad santaidd, acna amlyga midyn yr un gwir rinwedd, yn wybodol iddo ei hun nac yn weledig i neb arall, ond mewn cyssylltiad a theimlad o'r moddion a roddwyd gan yr Ysbryd Glan i ddynion i'r perwyl hwnw. Dymuuir sylwi hefyd, nad yw ein bod ni ! yn methu amgyftred dull gweinyddiad y dylanwadau uchod, a"r modd yr effeithiant ar enaid dyn mewn cyssoudeb â phethau ereill a berthynant i'w aehubiaeth, mewnun mesur yn cymmylugeirwiredd eu bodolaeth. Y mae bodolaeth miloedd o bethau yn ddad- guddiedig i ni trwy dystiolaethau a ífeithiau anwadadwy, fel yr ydym yn rhwym o gredu eu bodolaeth, a hyny ar y seiliau mwyaf rhesymol, pan nad ydym yn gallu amgyflTred dull eu bodolaeth, na'r modd y maent yn efFeithiomewucyssondeb â pheth- an ereill; Te, mewn gair, y mae bron bob peth felly a welir mewn naturiaeth a chre- fydd. Pe gofynid i'r dynion mwyaf eu deall ac ehangaf eu gwybodaeth yn y byd, pa fodd y mae dynion yn gweled á'u llyg- aid, yn clywed â'u clustiau, yn cerdded â'u traed? neu pa fodd y mae eu dillad yn gynhes? a pha fodd y mae dwy natur mor wahanol ag yw coríî* ac enaid yn gwneyd un person yn yr hil ddynol ? y mae yn debyg y byddai yn ormod iddynt i roddi ateb i'r oll a ellir ofyn yn ngbylch dull eu bodolaeth, pan na wedir y tfeithiau eu bod.