Skip to main content

Y D YS GEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." I Jifotbbar §are|î. $. Cbtmmbs, jtonlj, Stogggfgít^i. (gait y parch. henry rees, caer). (Farhad o Eifyn Mai.) Diamheü genym y teimla llawer yn ddiolchgar i D. Owen am ei adrodd- iad manwl a dyddorol o amgylchiadau bore oes ein cyfaill ymadawedig. Ac yn y pethau sydd gecym ninau i'w traethu am dano yn y cyfnodau di- lynol o'i fywyd, fe welir gwirionedd y dywediad hwnw^mai "Y plentyn yw tad y dyu." Ond cyn i ni fyned yn mlaen, goddefer i ni alw sylw y darllen- ydd at y tymor a dreuliodd ein brawd yn Bourne. Yn ei lythyr oddiyno at ei gyfaill, y diweddar Isaac Jones, gwelir iddo ddweyd fel hyn, "Y mae y rhan fwyaf o blant y siopau hyn yn set annuwiol ofnadwy," a cblywsom ninau ef yn dweyd iddo gyfarfod â themtasiynau cryfìon iawn yn ystod ei drigias yn Bourne, ond y teimlai yn ddiolchgar am gael nerth i'w gwrth- sefyll, fel na chafodd ei ddarostwng dan draed y gelyn. Y mae gadael cartref yn grisis pwysig iawn yn mywyd y dyn ieuanc. Y pryd hwnw y mae yn dyfod yn agored i beryglon na wyddai fawr am danynt o'r blaen, ac yn wrthddrych ymosodiadau y buasai, i fesur helaeth, yn ddiogel rhag- ddynt pan yn cael ei gylchynu â chyfeillion crefyddol boreu oes. Y mae hyn yn brofedigaeth sydd yn rhwym o ddangos y stwfT sydd ynddo yn bur fuan. Adrcddir chwedl am aderyn dyeithr a ymddangosodd unwaith yn Jersualem, yr hwn, wedi cael ei ddal, a ddygwyd at un o'r Rabbiniaid, er mwyn iddo benderfynu i ba ddosbarth o greaduriaid—glan neu aflan—y perthynai. "Wedi chwilio y creadur, a methu penderfynu y mater yn y ffordd hòno, gorchymynodd osod yr aderyn ar ben y tô, a'i wylio yn ofalus, i edrych pa adar gymerent sylw o hono. Ond ni chymerai adar y wlad ar- nynt eì weled—ehedent heibio heb aros i'w gyfarch mewn un modd. O'r diwedd, wele gigfran o'r Aipht yn dyfod i'r golwg, a phan welodd hwnw yr aderyn dyeithr, yn lle "myned o'r tu arall heibio" fel yr adar eraill, aeth ato, a dechreuodd ymgomio âg ef, ac aeth y ddau yn gyfeillion mawr yn y fan, ac o hyny allan, medd y chwedl, aflan yr ystyrid yr aderyn hwnw byth, canys "dygwyddodd yn ol y wir ddiareb," "Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle." Yr un modd y mae cymeriad y dyn ieuanc yn dyfod i'r golwg yn y dewisiad a wna efe o gyfeillion, yn enwedig wedi gadael cartref, pan y mae yn fwy rhydd nag o'r blaen i'w dewis. Gynifer o ieuenctyd Cymru sydd yn syrthio yn ngwyneb y brofedigaeth hon! ac yn cael eu gweithio allan mewn cymeriad tra gwahanol i'r hyn y credid ac y gobeithid am dan- yntjgan eu cyfeillion. Dyna fachgen ieuanc yn gadael cartref i fyned i wasan- aethu mewn rhyw alwedigaeth yn un o drefydd mawrioD Lloegr. Y mae yn myned a'i gymeriad yn lan, ac o bosibl, yn dwyn gydag ef dystiolaeth Gorphenaf, 1875. n