Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 264. RHAGFYR, 1843. Cyf. XXII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCHEDIG TIIOMAS JONES, NEWMARKET, SWYDD FFLINT. Ganwyd ef yn Penybont, plwyf Llanedi, swydd Gacrfyrddin, Tachwedd 1, 1764. Ei rieni, John a Margaret Hughes, oedd- ynt amaethwyr yn byw yn gysurus o ran pethau bydol, eithr yn ymddifad o \vy- bodaeth grefyddol. Bu farw ei dad cyn ei eni; yna nid oedd ond Tad yr ymddi- fad a Barnwr y weddw i ofalu am danynt, yr hwn a fu dda wrthynt. Yn fuan ailbriododd ei fam gyda dyn bydol, yn arfer Uithro i feddwdod. Felly nid oedd fawr o obaith, yn ol golwg ddynol,i Mr. Jones gael ymgeledd wych, i gorff nac enaid; etto gofalodd Duw am dano. Un boreu, pan mewn brys mawr yn gwisgo am dano i gael myned i chwareu, daeth ei chwaer hynaf ato, ac a ddywedoddwrtho yn sobr am farw a byd tragwyddol, ac am sefyllfa o wobr a chosb yn y byd dyfodol,yr hyn a effeithiodd yn ddwys arno, er nad oedd ond plentyn, ac ni allodd ddilëu yr argraffiad oddiar ei feddwl tra bu by w! Wedi dyfod yn 10 neu 11 oed, ym- drechodd fwrw ymaith y meddyliau am fyd arall, gan edrych oddiamgylch; ac wrth ganfod hen bobl yn ddifeddwl, ac heb fod yn yr helynt o barotoi at farw a byd arall, meddyliodd mai ofer oedd iddo efymbarotoi tra yn blentyn. Ofnadwy ydyw siampl ddrwg hen bechaduriaid. Ond fel yr oedd ei gorff a'i enaid yn cyn- nyddu, cynnyddodd a chryfhaodd yr argraffiadau a'r meddyliau am grefydd a phethau ysbrydol. Gan na chafodd ysgol gan ei fam a'i lysdad, nid oedd ef yn medru darllen; ond daeth awydd neillduol arno i ddysgu darllen ei Fibl: eithr yr oedd yn dra thywyll arno, am ei fod yn gorfod gweithio yn galed ar y tyddyn, ac heb Ysgolion Sabbathol y pryd hyny. Pau yn y cyfyngder yma, yn methu gwybod pa beth i'w wneuthur, bu farw ei frawd hynaf, a chafodd ych- ydig eiddo ar ei ol. Wedi cael ei gyfran, aeth i'r ysgol, a buyn ymdreehgar iawn i gyrhaedd dysg. Ond wedi darfod ei arian, er cymaint oedd ei syched am wybodaeth, gorfuarno fyned drachefn at ei lafur ar y tyddyn am dro. Ond trwy Ragluniaeth ryfedd y nef, bu farw brawd arall, yr hwn hefyd a adawodd ychydig arian iddo; ac yn ei awyddfryd am ddysgeidiaeth, aeth i'r ysgol, a chyn- nyddodd yn rhagorol mewn darllen, ysgrifenu, rhifyddiaeth, &c. Erbyn hyn yr oedd ei feddwl wedi ei argyhoeddi yn ddwys am ei ddyledswydd a'i fraint o ymuno ag eglwys Cristgyda y Cynnulleidfawyr, yn addoli mewn lle a elwir yn awr, Three Crosses, pan oedd tua 17 oed. Yr oedd yn astud a diwyd neillduol, yn aberthu ei giniaw yn fynych ar y Sabbath ergallu cael tair pregeth yn lle dwy. Yn mhen tair blynedd, cy- mhellwyd ef i arfer ei ddawn yn gy- hoeddus, a bu yn gymeradwy iawn. Trwy ryfedd Ragluniaeth cafodd y fraint werthfawr ac anmhrisiadwy o gael der- byniad i Athrofa Croesoswallt, yr hon oedd dan ofal y Parch. EdwardWilliams, wedi hyny Dr. Williams o Rotherham. Bu hyn yn fendith fawr iddo, nid yn uniger cyrhaedd gradd helaeth owybod- aeth angenrheidiol i'r weinidogaeth santaidd, ond hefyd er mwynhau cym- deithas adeiladol, cynghorion dwysion a serchog, yn nghyda siamplau rhagorol yr hybarch Athraw. Gyda'r parch mwyaf y coffaai am synwyr, duwioldeb, ac addasrwydd ei hen Athraw i ddysgu dynion ieuainc a'u cymhwyso i'r weini- dogaeth efengylaidd. Ychydig cyn i'w bedair blynedd Ysgol 45