Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD, Rhif. 263. TACHWEDD, 1843. Cyf. XXII. COFIANT Y DIWEDDAR MR. SAMUEL JONES, MAESGLAS, GERLLAW TREFFYNNON. Er fod rhai blynyddau wedi myned lieibio er pan y bu farw gwrthddrych y Cofiant hwn, etto gan ei fod yn wr mor ragorol yn ei ddydd, a chan fod llawer- oedd yn coleddu teimladau parchus a serchus at ei goffadwriaeth, barnwyd y byddai cyhoeddi ychydig o linellau yn ei gylch trwy gyfrwng y Dysgedydd yn beth buddiol a chymeradwy. GanwydMr. Samuel Jones, Gorph.28, 1760, yn nhref Castellnewydd Emlyn, swydd Gaerfyrddin. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus. Cafodd ei ddwyn i fyny er yn blentyn o dan ofal ei daid a'i nain. Rhoddwyd manteision dysg iddo yn foreu, a daeth yn dra medrus yn yr ieithoedd Saesonaeg, Lladin, aGroeg. Bwriedid ef ar y cyntaf i weini yn yr Eglwys Sefydledig. I'r perwyl hwn y bu yn astudio, ac ymdrafferthodd er meddiannu pob cymhwysder angenrheid- iol er cael ordeiniad Esgobol. Ond nid hwn oedd y llwybr a fwriedid gan Ragluniaeth i fod yn Ilwybr ei ymdaith, ac ysgogodd ei feddwl at sefyllfa arall. Ymbriododd yn lled ieuanc; ac er cynnaliaeth i'w briod ag yntau, ymrodd- odd i gadw ysgol, a bu yn dra llwydd- iannus gyda'r gorchwyl. Ond yn mhen rhyw ysbaid o amser cafodd wahoddiad i fyned i weithfeydd penagored i arolygu pwysiad y copr a ddelai i mewn i'r, ac a elai allan o'r, gweithfeydd hyny. Yn 1785, symudodd i'r Maesglas, gerllaw Treffynnon, swydd Fflint, i gyflawni yr un gwaith, ac yn ngwasanaeth yr un Cwmpeini. Y mae yn debyg fod ei ddyfodiad yno yn gefnogrwydd i ddechreu yr achos yn Nhreffynnon, oblegid yn fuan wed'yn ymgyfammododd rhyw ychydig nifer â'u gilydd ac â'r Arglwydd i gydrodio yn ffydd yr efengyl, ac i gynnal y nodwedd o fod yn Eglwys i Grist. Cawsant weini- dogion cymydogaethol i bregethu yr efengyl ac i weinyddu yr ordinhadau ichlynt. Gan fod yr Arglwydd yn llwyddo eu hymdrechion, gwelwyd yr angenrhaid 0 adeiladu tŷ cyfleus i addoli ynddo, a dygwyd y gorchwyl hwnw yn fuan i ben trwy gynnorthwyon haelrydd caredigion y Gwaredwr. Y mae efe ei hun yn sylwi mewn dyddlyfr o'i eiddo:— " Yr oedd yr Arglwydd yn gofalu yn rhyfedd am danom, fel yr anfonodd atom y Pareh. Mr. Hale i bregethu i ni Air y Bywyd. Ar ol ei symudiad ef i swydd Gaerefrog, tueddodd yr Arglwydd y Parch. David Davies, gynt o Peny- graig, swydd Gaerfyrddin, i dd'od i'n plith. Ar 01 ymadawiad Mr. Davies, daeth atom y diweddar Barch. David Jones, yn y flwyddyn 1801, yr hwn a arhosodd yn ein plith fel seren oleu hyd ei symudiad disymwth i wlad well. Llwyddodd yr Arglwydd lafur y gweinidog teilwng hwn i ddwyn llawer i osod eu hysgwydd- au o dan yr arch, ac i luosogi y gwrandawwyr, fel y buwyd o dan yr angenrheidrwydd o adeil- adu oriel newydd yn y capel, megys y'i gwelir heddyw yn addoldy helaeth a hardd." Yn flwyddyn 1803 annogwyd ef gan y Gweinidog a'r Eglwys i arfer ei ddawn yn gyhoeddus i ddysgu y bobl a'u han- nog at dduwioldeb. Mewn cydffurfiad â'r cymhelliad hwn, pregethodd y bre- geth gyntaf ar Tach. 11, 1803, mewn Ilofft tafarn yn Heolmostyn. Ei destun oedd, "Chwiliwch yr Ysgrythyrau," &c. Yn y flwyddyn 1814, gan ei fod yn teimlo dros lesiant crefyddol cymydog- aeth gynnyddfawr y Maesglas, gofynodd gennad William WiIIiamson, Ysw., am fenthyg ystafell gyfleus i bregethu ynddi, yr hyn a ganiatawyd gyda phob parod- rwydd. Aeth y boneddwr hwnw i gryn 41