Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD, Rhif. 262. HYDREF, 1843. Cyf. XXII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS JONES, LLANSANTSIOR, SWYDD DDINBYCH. Vh oedd yn fab i Mr. Henry ac Anne Jones, o Drecyrnfawr, plwyf Llanwinio, swydd Gaerfyrddin. Ganwyd eí' tua'r flwyddyn 1773. Nis gwyddom nemawr am dano pan yn blentyn gyda'i rieni. Anfonwyd eí'pan yn ieuanc i'r ysgol at ei ewytbr, brawd ei dad, y diweddar Barch. B. Jones, Pwllbeli, yrhwn oedd yn weinidog y pryd hwnw yn Rhosy- meircb, sir Fon. Pan yno, ymroddodd i Grist, a derbyniwyd ef yn aelod eg- lwysig. Yn lledfuanwedi iddo gacl ei ddwyn i weled gwerth crefydd, tueddwyd ei fedd wl yn gryf at waitb y weinidogaeth. Decli- reuodd bregetbu ; ac ar ol bod tan addysg- iadaueiewythr tuadwy flyneddjdychwel- odd at ei rieni; ac yn fuan wedi hyn aeth i'r Ysgol Ramadegol yn Llanybri. Wedi iddo gyrhaedd gwybodaetb led hclaetb o'r ieithoedd Lladin a Groeg, ar gymer- adwyaeth ei athrawdysgcdig, derbyniwyd ef yn astudiwr am bedair blynedd i Athrofa Henaduriaethol Abertawe, yr hon oedd y pryd hwnw dan olygiaeth y Parchn. J. Jones a W. Howells. Pan wedi bod dair blynedd yn Abertawe, bu anghydfod rhwng yr athrawon, a'r can- Iyniad fu i'r Athrofa gael ei dattod am agos i flwyddyn, a'i symud i Gaerfyrddin dan olygiaeth y Parchn. D. Peter, a D. Davies, Llanybri. Caniataodd yr ym- ddiriedolwyr i Mr. Jones fod yn Athrofa Caerfyrddin flwyddyn yn rhagor na'r amser cyffredin. A chan iddo gael pum mlynedd o addysgiadau Athrofaol, a manteision helaeth yn flaenorol, gellir credu ei fod wedi cyrhaedd gwybodaeth led helaeth o amry wiol gangbenau dysg- eidiaeth, yn enwedig y tair iaith a ysgrií'- enwyd ar groes ein Harglwydd Iesu Grist. Wedi gadael yr Atbrofa, arhosodd gartref am yn agos i flwyddyn, a phreg- ethai yn acblysurol mewn gwahanol eglwysi, gyda chymeradwyaeth mawr. Yn y flwyddyn 1799, cymerodd daith i'r gogledd. Yr oedd eglwys Dinbych heb ungweinidoger marwolaethy Parch. Daniel Lloyd. Rhoddasant eu meddwl arno fel un addas i gymeryd eu gofa! gweinidogaethol. Dymunasant yn daer arno ddyfod atynt, a chydsyniodd yntau. Yn fuan wedi dyfod yno, ymroddodd i gadw ysgol. Gan ei fod yn ysgolhaig mor dda, yn ẁr o gyfansoddiad cryf, ac o ymroddiad diflino, llwyddodd yr ysgol yn anarferol. Darfu y rban fwyaf o fasnachwyr y dref, pobl gyfrifol Dyftryn Clwyd, a Uawer o Loegr, roddi eu plant dan ei ofal. Cyn bir, rhoddodd i fynyei ofal gweinidogaethol yn Ninbycb, ond parbaodd i gadw ysgol yno. Wedi clywed llawer o son am fynydd Moelfre, a bod trigolion y cymydogaeth- au byny yn bynod o dywyll, beb fawr o bregethu yn agos, tueddwyd ei feddwl i gynnyg yr efengyl iddynt. Cafodd gy- uihelliad gan dyddynwr o'r gymydogaeth i ddyfod a phregetbu yn ei dỳ ef. Ai yno yn Sabbathol, a phregetbai wrth y drws< Lluoedd lawer a ymdyrent i wrando, ond ar y cyntaf ni ddeuai uiid ychydig o honynt yn nes na'r ffordd fawr. Ni pbarhaodd feliy yn hir, canys gwelwyd yn fuan fod llaw yr Arglwydd gydag ef, yn y cyfnewidiad a gymerodd le yn mucbeddau Uawer o drigolion yr ardal. Amrai a ddaethant i ymofyn y ffordd i Sion, ac i ymroddi i'r Arglwydd, ac i'w gilyddmewn cymdeithaseglwysig. Tua'r flwyddyn 1803,aethanti addoli iysgubor gyfagos. Yno y corffolwyd yr eglwys, ac yno y cafodd Mr. Jones ei ordeinio. Y gweinidogion a weinyddodd ar yr 37