Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 260. AWST, 1843. Cyf. XXII. PREGETH AR 1 COR. XV. 49. PARHAÜ O TUDAL. 202. II. Ein perthynas ni â'r personau y dy- wedir am danynt dan yr enwau " y daear- o\ a'r nefol." Mae prawf ac eglurdeb yr hyn a fu dan ein sylw, a'r hyn sydd i ddyfod dan ein sylw yn y pen nesaf, yn ym- ddibynu ar eirwiredd y sylw hwn ; canys os oes perthynas rhyngom ni à hwy, rhaid eu bod yn bersonau cyhoedd- us; a rhaid ein bod yn naturiol wedi dwyn delw y eyntaf, a'n bod mewn gobaith i ddwyn delw yr ail, os na ddir- mygwn ef trwy lynu wrth y cyntaf. Dangosodd Duw, o dan bob gorucliwyl- iaeth o'i eiddo, ei ewyllys i amlygu ei ddaioni tuag at bob bod adnabyddus i ni trwy undeb gwahanol betb.au â'u gilydd. Ped edrychem ar y cysawd heulog, y mae yn un cyfundawd—ar y ddaear, y mae pob peth mewn undeb achymdeith- as—yn wladol, teuluaidd, ac eglwysig, pob un arno ei hun yn un corffolaeth.— Corff dyn, o wahanol aelodau, efto yn un, o goryn y pen hyd fys bach y troed.— Yr un modd yn mysg llysiau y maes: y mae ymiloedd brigau ar ygoeden yn un, o'r brigyn uchaf hyd y gwreiddyn isaf. Ymddengys yn eglur fod yn hanfodol i bob undeb cyfansoddedig ryw ganol- bwynt, onidè ni ddichon iddo fod yn un cyfundawd, ar yr hwny mae bodolaeth, bywyd, grym, a pharhad yr undeb yn sefyll. Gwadu hyn ydyw gwadu nad oes undeb, yr hyn sydd yn groes i ffeithiau eglur. Yn mhob undeb cyfansoddedig, gellir tòri ymaith rai rhanauneuaelodau o hono heb ddinystrio y cyfundawd; ond dinystrier y canolbwynt, dinystrir y cyfundawd ar unwaith. Yn y cysawd heulog, tybir mai yr haul ydyw ei ganolbwynt, o gylch yr hwn y mae y planedau eraill yn troi. Nid annhebyg, dichon, i rai o'r planedau hyn gael eu tynu ymaith, a'r cysawd barhau; ond tyner ymaith yr haul, â y cwbl o angenrheidrwydd i ddyryswch, a'r un- deb i ddiddymdra. Mewn undeb corff- orol, dichon i rai o'r aelodau gael eu tòri ymaith, a bydd y corff yn aros, er yn anafus; ond pe tòrid ei ben, yr hwn yw canolbwynt y corff, byddai marwolaeth yn ddiattreg. Gellir tùri llawer o gang- henau coeden, ac er hyny erys yn goeden fyw; ond tòrer ymaith ei gwreidd- yn,bydd marwycanghenau oll. A gellir tynu cerig ymaith o fur adeilad, ac etto ei fod yn aros yn adeilad ; ond tyner ymaith y sylfaen, y mae yn rhwym o fyned i lawr. Felly y cyfansoddodd Duw undebrhwngyr Adda cyntaf a'i hollhad, fel y byddai iddynt oll fwynbau ei an- haeddiannol haelioni trwyddo—efe oedd haul, pen, gwreiddyn, a sylfaen yr undeb hwn ; a phan y dinystriodd efe ei hun, trwy bechu, yr oedd y dinystr yn rhwym o ddyfod i'r holl gyfundawd. Cyfan- soddwydyr un cyffelyb undeb yn TSTghrist, ond ar gyfammod arall yn gwbl; ac efe ydyw ei ben, ei haul, ei sylfaen, ei ganol- bwynt, ei wreiddyn, a'i fywyd. Ac fel y mae efe wedi llwyddo yn y prif orchwyl- iaeth o ddwyn i mewn gyfìawnder tra- gwyddol, y mae yn sicr o lwyddo i ddwyn pob amcan ynddo i gyflawniad perffaith. Eithr teilynga ein sylw, nad ydym i ddeallwrth yr undeb hwn,undeb person- au, fel pe byddem bod ag un yn un o'r ddau Adda yn bersonol—trwy feddwl ein bod yn yr Adda cyntaf yn bwyta ffrwyth y pren gwahnrddedig, neu ein bod yn yr ail Adda yn gweithredu yr hyn a weithredodd, dyoddef, a marw ar y groes—na, yr oedd ac y mae y rhai hyn yn weithredoedd priodol iddynt hwy. 29