Skip to main content

Y DYSGEDYDD, Rhif. 257. MAI, 1843. Cyf. XXII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. N. M. HARRY, GWEIMDOCÍ YR EGLWYS GYNNULLEIDFAOL YN NEW BBOAD-STREET, CAERLUDD. (O'r Drysorfa Efcngylaidd am Fawrth dìweddaf.) Y mae yn ddywenydd genym allu gosod gerbron ein darllenwyr, hanes tra buddiol y diweddar Barcli. N. M. Harry, yr liwn a roddwyd gan y Parch. Caleb Morris i gynnull- eidfa ymddifad y trengedig, mewn pregeth angladdol, nodedig o ran yr holl ansoddau hyny o feddwl a chalon ag sydd mor ragorol yn addurno ymroddiad ein hanrhyd- eddus gyfaill a brawd. Y Parch. N. M. Harry ydoedd enedigol o Lanbedr, swydd Benfro. Daeth yn ddeiliad dwyfol ras yn moreuddydd bywyd; ac yn mhen ycliydig flynyddau ar ol hyny, dechreuodd ar yrfa o fyfyrdod, yn barotoawrl i'r weinidogaethGristion- ogol, yn Newport Pagnel, o dan ofal doeth y Parch. J. P. Bull. Ar ol terfyniad ei yrfa athrofaol, daeth yn weinidog i'r eglwys Gynnulleid- faol yn Banbury, ac wedi hyny symudodd i New Broad-street. Yn y lle olaf y terfynodd ei yrfa fer, ond tra defnyddiol; ar ol byr gys- tudd bu farw Hydref 22, 1842. Cymerodd ei angladd le ar yr 31ain o'r un mis, yn y beddrod (cemetery) yn Abney Park, pan y darfu Dr. Morison, Dr. Smith, a Meistriaid Clayton, Berry, a Binney, wein- yddu yn y tý, yn y capel, ac wrth y bedd. Ar ol gwneuthur rhai nodiadau priodol ar ffurfiadnodwedd deallawl Mr. Harry, y mae Mr. Morris yn myned yn mlaen yn y dull canlynol:— Yr oedd yn weithgar, yn ffyddlawn, a neillduol gyflawn. Yr oedd yn ar- ddangos crynhoad o rinweddau naturiol a gwirioneddol. Yn gwbl rydd oddiwrth unrhyw anffurfiaeth naturiol na chyr- haeddiadol, yr oedd yn meddu cyfartal- rwydd, bywiogrwydd gweithrediad, ac effeithiolaeth nas ceir ond ynanaml. Y mae yn sicr ei fod wedi ei gynnysgaeddu ag elfenau mawredd; ac yr oedd y rhai hyn bob blwyddyn ddilynol yn dyfod yn fwy gweithredol ac amlwg. Yr oedd cynnydd ei alluoedd deallgar yn ystod blynyddoedd diweddaf ei fywyd yn an- arferol gyflym, ac a gyfartelid yn unig gan gynnydd ei ddefnyddioldeb fel gweinidog, a'i boblogrwydd fel pre- gethwr. Nid oes angen i mi ddweyd wrthych fod y meddwl, ar gymeriad naturiol yr hwn yr ydym wedi taflu golwg, yn feddwl santaidd. A hyn arol y cwbl yw y prif ardderchogrwydd. Yr oedd, trwy ras, yn ewyllysgar a chwbl gyflwynedig i Dduw. EwyllysDuwoedd y ddeddf a lywyddai ei holl serchiadau a'i weithred- ion; cariad Duw oedd santeiddfan ei orphwysfa; a geiriau Duw oeddynt ei fyfyrdod a'i hyfrydwch parhaus. Mewn perthynas i'w ymgysegriad i Dduw, rhoddodd yr ymadawedig hanes tra buddiol ar ddydd ei ordeiniad, o'r hwn y dyfynwyf y rhan a ganlyn yn ei law ysgrifen ei hun :— "Hydrcf 19, 1817, dydd a gofiwyf byth, yn ol arfer oin hoglwysi yn y dywysogaeth, cy- ffesais fy ffydd yn Nghrist, trwy uno yn gy- hoeddus â'r eglwys o dan ofal j- Parch. J. Lloyd. Er y pryd hwnw yr oeddwn wedi bod yn ddarostyngedig i lawer o deimladau, wedi cael Uawer o achlysuron i alaru uwchhen llygredig- aethau fy nghalon. Ond er fod îy mlirofiad crefyddol wedi bod yn aml o gymeriad gofídus, teimlwyf yn ddiolcligar na bu felly bob amser. Pa fatli bynagfu sofyllfafy mcddwl, ni theiinluis erioed y dymuniad lleiaf i ddyehwelyd i'r bvd. 17