Skip to main content

Y DYSGEDYDD, Rhif. 256. EBRILL, 1843. Cyf. XXII. COFIANT Y DIWEDDAR JAMES EVANS, O DREFGARN, DYFED. Ganwyd James Evans mewn lle a elwir Treaser-fach, yn mhlwyf Bri- deth, yn swydd Benfro, ar yr 28 o Mehefin, 1814. Enwau ei rieni ydynt John a Martha Evans, y rliai ydynt yn byw yn bresenol yn Trefgarn. Ei rieni ydynt aelodau o'r Eglwys Gynnulleidfaol sydd yn cyfarfod yn Trcfgarn, yr hon sydd dan ofal gweinidogaethol y Parch. B. Griffiths. Cafodd ei dad ci dderbyn yn aelod o'r eglwys hòno, yr un pryd a gwrthddrych y cofìant lnvn: ond yr oedd ei fam yn aelod lawer o flynyddocdd cyn hyny. Yn wybodol o werth dysgeidiaeth, rhoddasant ysgol dda i'wr plant oll; a chafodd James ei gadw mewn ysgol ddyddiol, ac ysgol Sabbathol, er pan oedd yn lled ieuanc, nes ydoedd dros 13 oed. Pryd hwn daeth rhyw beth dros ei lygaid, raegys cwmwl du, yn gwbl ddiboen, l'el yr oedd yn methu gwclcd yn dda. Buwyd yn ymgynghori â'r meddygon goreu yn yr ardal, yn ei gylch; ond bu y cwbl yn ofer: ac ar y 13 o Ebrill, 1828, methodd yn hoílol a gweled dim. Hyd yr am- ser hwn, nid oedd un peth ynddo ag sydd yn teilyngu sylw neillduol: ond yr oedd yn ymddangos yn feddiannol ar alluoedd cyffredinol dda; ac yn hytrach yn rhagori mewn rhifyddiaeth. Ryw ychydig o amser wedi hyn, ymddangosodd yn ystyriol o bwys pethau crefydd ; a than deimlad dwys o'u perthynas ag ef. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys fel y crybwyllwyd yn barod nr yrr 16eg o Fai, 1830. Canfu yr eglwys yn fiian ei fod yn rhagori mewn gwybodaeth a doniau ar ei gyfoedion ; ac annogwyd ef i arfer- yd ei ddawn i bregethu ym gyr- ìioeddus. Ei destun cyntaf oedd Galar. 3. 27. Am ysbaid o amser wedi hyn bu yn pregethu yn aml yn y gymydogaeth, ac fel cynnorth- wy wr i'r gweinidog: yna cafodd ryddid i fyned y lle y mynai i bre- gethu yn unol â meddwl yr eglwyrs, a gweinidogion y sir yn gyffredinol. Yrn ol hyn cymerodd daith drwy amryw siroedd Cymru, ac aeth i Lynlleifiad. Bu yn y Sefydliad Llygeidyddol (Eye Institution) yno, mewn gobaith cael cymhorth i'w lygaid: ond bu yn aflwydd- iannus yn yr amcan hwnw. Ym- ddangosai yn ddios bellach, mai heb ei olygon y byddai raid iddo ef dreulio gwcddill ci oes. Ychydig gyda dwy flynedd wedi hyn cymer- odd daith drachefn : aeth yn agos drwy holl siroedd Cymru, a rhan o Loegr: aeth etto i Lynlleifiad. Yn ol dychwelyd j tro hwn, cyfansodd- odd lyfryn bychan a elwid, " Y Cristion Dyddorgar" Bu gwerth- iad y llyfr hwn yn achlysur iddo gymeryd amryw deithiau drachefn. Pan yn dyrchwelyd o un daith, cafodd lythyr i'w gyfarfod yn Ar- berth, yn hysbysu iddo am farwol- aeth ei ewythr. Tro arall pan yn Llanyrmddyfri, cafodd un arall y^ hysbysu iddo am farwolaeth ei frawd Ebenezer. Yr oedd ergyd- ion fel hyn, ni a allwn feddwl; yn 13