Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD, Rhif. 255. MAWRTH, 1843. Cyf. XXII. COFIANT AM MRS. ELIZABETH ROBERTS, O ROSA FAWR. (PARHAD O'N RHIFYN DIWEDDAF.) Yr oedd yr anwyl chwaer hon yn meddu yn helaeth ar ysbryd cy- hoeddus mewn crcfydd, a llawen- ychai yn llwyddiant yr achos yn mhob líe ac yn ei holl bethau. Yr ocdd achos dirwest yn anwyl a gwerthfawr yn ci golwg, a liyfiyd- wch mawr iddi oedd clywed am yr cffcithiau gogoneddus a ddilynasant yr ymdrech dirwestol yn Nghymru a manau eraill. Yr oedcl achos gwaredigaeth y caethion yn yr India Orllewinol yn agos iawn at ei chalon; a chyda gofid y soniai am gaethion America, gwlad fab- wysiadol amrai o'i hanwyl blant: a diammau genym iddi ofírymu aml weddi daer a difrifol dros eu gwaredigaeth. Yr oedd achos y Bibl, y Cenhadon, a'r Ysgol Sab- bathol yn agos at ei meddwl. Pan y daeth son y byddai i'w merch icuengaf ei gadael, a myned i AfF- rica mewn cysylltiad â'r achos cen- hadol, yr oedd ei meddwl yn dra dwys; ond er mai yr unig ferch ag oedd ganddi gartref ydoedd, a hithau y pryd hwnw wecli cyrhacdd heibio i ddeg a thriugain oed, gall- odd ci rhoi i fyny yn dawel i law yr Arglwydd ac i wasanaeth ei achos ef. Wrth un o'i chyfeillesau crefyddol dywedodd, ei bod wedi rhoddi ei phlant i fyny i'r Ar- glwydd lawer gwaith, ac nas gallai alw yn ol yn awr yr hyn ag oedd wedi roddi i fyny iddolawergwaith o'r blaen. Mewn egwyddorion crefyddol yr ocdd yn dra hoft' o'r golygiadau a elwir weithiaii'yn "olygiadau Dr. Williams," ac eraill, sef bod Crist yn Iachawdwr digonol i bob dyn, a galwad lawn yr efengyl ar bawb yn ddiwahaniaeth i grcdu ynddo, a bod yn gadwedig,—fod y pechaclur yn alluog drwy y cymhorth sydd yn cael ei ddal alìan yn yr efengyl i wneud derbyniad o hono, ac yn hunangondemniol byth am ei wrth- od. Gyda llawer o hyfrydwch y gwrandawodd ar yr anwyl frawd Mr. Williams o'r Wern, ac eraill o gyfFelyb ysbryd, yn gosod allan anchwiliadwy ras yr efengyl ar gyfer dyn euog a llygredig. Bu gyda yr achos ac yn aelodo'r un eglwys, (sef eglwys yr Annibyn- wyr yn Lôn Swan, Dinbych,) tua 57 o flynyddoedd, a hyderwn ei bod yn awr yn uno gyda'r dyrfa waredigol, ac yn eu plith lawer ag y cafodd y fraint o gylchynu yr un bwrdd gyda hwy ar y llawr, i glod- fori ei Chcidwad bendigedig, a'i wasanaethu wrth ei fodd byth mwy yn y nefol fro.—R. Everett. " Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tcgwch; ond benyw yn ofni yr Ar- glwydd, hi a gaiff glod," eb y gwr doeth. Pe mewn tcgwch wyneb- pryd, neu yn ei ffafr yn ngolwg mawrion y byd hwn, y buasai rliagor- iaethau Mrs. R. 3-n gynnwysedig, ni fuasai hanes ci bywyd yn werth ci ysgrifenu na'i ddarllen; a diau na cliawsai ei "chlod" ei fynegu a'i gyhoeddi yn Nghymrti a'r America. Ymddangosodd y byrgofinntblaen- orol yn y Cenhadwr Àmericanaidd