Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD, Rhif. 254. CHWEFROR, 1843. Cyf. XXII. COFIANT AM MRS. ELIZABETH ROBERTS, O ROSA FAWR, GER DINBYCH, GOGLEDD CYMRU. Gwrthddrych j cofiant hwn a fu farw Mawrth 5, 1842, ac a gladdwyd yn meddrod. ei thadau yn mynwent Llanrhaiadr, yn agos i Ddinbych, Mawrth 10. Gwraig ydoedd i Mr. Thomas Roberts, Rosa, ger Dinbych, yr hwn a fu farw ychydig gydag 8 mlynedd o'i blaen hi, gan adael tystiolaeth mai Crist ydoedd ei fywyd, a bod marw iddo yn dragwyddol elw. Buont fyw yn Rosa tua 50 o flynyddoedd, a bu eu tý dros y rhan fwyaf o'r amser hwnẅ yn llety cysurus i weinidogion a phregethwyr yr efengyl ar eu teithiau, ac nid oedd ond ychydig o'r rhai hyn yn mhlith yr Independ- iaid yn Neau na Gogledd Cymru (ag a fyddent arferol o fyned oddi- cartref ar deithiau i bregethu) nad oeddynt yn gydnabyddus yn y tý a'r tylwyth hwn. Merch ydoedd Mrs. R. i Thomas ac Ann Lewis o Ben y Banc, Pont Astrad, ger Din- bych. Ganwyd hi tua'r fl. 17&5, ac felly yr oedd yn awr yn 77 ml. oed. Ymunodd mewn priodas gyda Mr.Thomas Roberts (y pryd hwnw) o'r Tymawr, Green, Dinbych, yn y fl. 1790. Bu iddynt 9 o blant. Un o honynt a fu farw yn ei faban- dod. Un ferch, Mrs. Mary Holli- well, a fu farw ychydig fisoedd wedi ymimo mewn priodas â Mr. J. Holliwell, o Liverpool, pan yr oedd. tua 30 oed. Dau o honynt ydynt yn yr hen gymydogaeth,—y mab liynaf yn nhref Dinbych, a'r mab ieuangaf yn Rosa; a chawsant y fraint o'i chysuro a bod yn dyst- ion o rym ei fíydd a llawenydd ei gobaith yn ei misoedd a'i dyddiau diweddaf. Y pump eraill ydynt dra gwasgaredig i glywed, un ar ol y llall, y newydd galarus o farwol- aeth eu hanwyl fam. A thra y teimlont yn cîdwys i feddwl fod gwedd'iau eu mam drostynt wedi terfynu, a'r llais a glywyd lawer canwaith yn dadleu cu hachos ger bron yr orseddfainc yn awr wedi tewi yn angeu; gobeithiwn mai eu gweddi fydd, ar fod yr un ysbrycl ag a'i meddiannai yn gorphwys arnynt hwythau, ac ar eu plant. Y ferch ieuangaf sydd yn AffWca Ddeheuol, yn briod â Mr. Edward Williams, cenhadwr ffyddlawn a llwyddiannus yn mhlith yr Hotten- totiaid a'r Negroaid, y rhai a wared- wyd o gaethiwed gan lywodraetli Lloegr ychydig flynyddau yn ol. Dau ydynt yn y gorllewin yn y wlad hon, un yn Utica, ac un (gwraig y Parch. R. Everett) yn Steuben,— oll yn cael y fraint o berthyn mewn proffes i deulu yr Oen. Cafodd ei dwyn i fyny yn moreu ei dyddiau yn ol trefn Eglwys Loegr; ond pan yr oedd yn dyfod i sylwi ar bethau drosti ei hun, dewis- odd eistedd dan weinidogaeth yr Ymneillduwyr. Cafodd ei dwyn dan argyhoeddiadau difrifol am ei chyflwr pan tuag 20 oed, dan weinid- ogaeth y Parchedig a'r ffyddlawn Daniel Lloyd o Ddinbych. Tua'r amser hwn, pan yr oedd ei meddwl dan ddwys drallod am yr un peth angenrheidioljdygwyddoddyParch.