Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Rhif. 174] MAI, 1836. [Cyf. XV. ANERCHIAD MRS. CAMPBELL I'W PHUM' MERCH WRTH FARW. rY Mhlant anwyl a hoff,—Y mae'n ýmddangos maì ewyllysein Tadnefol ydyw fy ngwahanu i oddiwrthychtrwy angeu. Vr unig ddymuniad oedd genyf i fyw dros yr amser a basiodd ydoedd, daioni íy uheulu. Am danaf fy hun, nis gallaswn ddysgwyl mwynhau dim yn ychwaneg ar y ddaear hon nag a fwynheais yn barod; ac oblegid hyny gwell o lawer i mi, er fy mwynhad fy hun, gael fy nghymmeryd ymaith nag aros gyda chwi. Yr wyf yn foddlawn i'chgadael pan ystyriwyf nas gallaf eich cadw rhag drygati pe yr arhoswn gyda chwi. Mae yn ddiau y gallwn eich cynghori, a'eh dysgu chwi; ond os na wrandewch ar Moses a1r profl'wydi, Crist a'i apostolion, ni chymmer- ech eich perswadio chwaith genyf finau. A chyda golwg ar ddrygau naturiol, nid oes ond Duw yn unig a all eich gwaredu rhag- ddynt. Yr ydych yn gallu dafllen OraclauDuw, a'r rhai hyn yw y dysgawdwyr doethaf a chyvviraf i chwi yn mhob peth. Yr ydwyf wedi boddloni eich gadael oddiar ystyriaeth arall hefyd. Cefaìs fy ngadael heb fam pan yn ieuangach na'r un o honoch chwi; a phan yr ystyriwyf mor dirion a thrugarog yr ymddygodd ein Tad nefol ataf, y modd y gwyliodd fi yn fy mabandod, y noddodd fl yn fy ieuenctyd, ac y tywysodd fi hyd yma, yr wyfwedi fy nysgu i'ch cyflwyno heb ofn nac arswyd i'w ddwylaw. Y mae y profiad ag ydwyf wedi ei gael o olud ei ddaioni i mi, yn fy ngalluogi i'ch cyflwyno chwithau iddo ef. Ond rhaid i chwi gofio nas gallwch chwi fwynhau ei roddion, ac nasgallaffinauobeithioam ei fendith arnoch chwi, oud ya unig gan belled ag y credoch 17 ynddo ac yr ufuddhaoch iddoef. Dywedais eich bod yn gallu darllen yr Ysgrythyr Lan; hyn a ddymunais yn fawr allu ei ddywedyd am yr ieuangafohonoch, achyda hyfrydwch mawr yr ydwyf yn ei ailadrodd. Gellwch oll ddarllen y Llyfrbendigedig, o'r hwn y lynais fwy ogysurnag oun flynnon- ell arall tan y nef. Yr amgylchiadau ded- wyddaf yn fy holl fywyd ystyriwyf y rhai hyny a roddodd i miarchwaeth i ddarllen, a dymuniad i ddeall y Testament Newydd. Hyn a ystyriais, ac yr wyf yn ei ystyried yn bresennol, yn un o'r bendithiou gwerth- fawrocaf a ddeilliodd i mi oddiwrth fy adnabyddiaeth â'ch tad. Er fy mod wedi cael dysgeidiaeth grefyddol gan fy nhad, a'm dysgu yn foreu am yr angenrheidrwydd a'r pwysfawrogrwydd o feddu gwir grefydd, etto nid oeddwn nes y daethum yn adnab- yddus â chynnwysiad y Llyfr hwn, yr hwn y gwelsoch fi yn ei ddarllen mor fynych, y pryd y daethum i ddeall nodweddiad Duw, ac i fwynhau diysgog a diderfyn hyder yn ei holl addewidion. Ac yn awr yr wyf yn dywedyd i chwi, fy Mhlant anwyl, fod yn rhaid i'ch holl gysur a'ch dedwyddwch yn y byd hwn, a'rhwn a ddaw, gael ei dynu yn hollol oddiwrth adnabyddiaeth neillduol o'r Arglwydd Iesu Grist. Gwelaisei nodwedd- iad megys ei darlunir gan Matthew, Marc, Luc, ac loan, yn eu tystiolaethau yn werthfawr iawn i mi; a pho mwyaf adnab- yddus ydwyf fi yn dyfod ó hono, mwyaf i gyd ydy w yr hyder, y cariad, y llawenydd, a'r heddwch ydwyf yn ei deimlo, a mwyaf î gyd yw fy nymuniad am fod gydag ef,— " canys llawcr iaẃn gwell ydyw." Yr wyf yn dywedyd wrthycb chwi gan hyny, gyda