Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Rhif. 171] CHWEFROR, 1836. [Cyf. XV. COFIANT MR. THOMAS PARRY, HENBLAS, GERLLAW TREFFYNNON. NlD wyf yn meddwl, ac y maè yn debyg na feddylia neb arall, fod rhoddi hanes dyn pan fyddo wedi marw yn efFeithio mewn un modd arno ef, yn gwneuthnr na drwg na daiddo; ond meddyliaf mai dyben pawb wrfh roddi hanes bywyd cyfaill ymadawed- ig fydd gwneyd lles i'rbyw, trwy nodi allan y rhinweddau perthynol i'r ymadawedig, gan obeithio y bydd hyny yn foddion i beri i rywrai ereill debygu iddynt yn eu rhin- weddau a'u gẃeithredoedd da. Thomas Parry ydoedd fab i Elisabeth Parry, Ysgeifíog, swydd Gallestr. Ganwyd ef yn Gorphenaf 1778. Nid oedd ei ríaint yn proffesu crefydd; ondeifam cyn ei marw a ddaeth at grefydd. Mŵnwr ydoedd ei dad, a bu yn gweithio gyda'i dad am ryw amser. Ÿmadawodd â'i dad yn dra ieuanc, àc a aeth i wasanaethu, yr hyn a ddílynodd am ryw ysbaid o amser. Pan oedd yn nghylch 20 oed ymunodd â'r teulu milwr- aidd, a bu gyda hwy am ychydig drosdair blynedd. Pan ddaeth yn ol adref, aeth at ei hen alwedigaeth, sef i Weithio yn y mwn- gloddian, ac yn mhen oddeütu blwyddyn priododd Èlisabeth Pryce o Lanrhaiadr- dyffryn-clwyd, a daethant í fyw i Resycae. Yr oedd pregethu aramserau y prydhwnw mewn lle a elwid yr Efail, ar fynydd Llyg- en. Yr oedd lVIr. Parry yn arfer gwrando yn y fan hòno, yn mha le, fel y mae yn debyg, y dechreuodd fyned i wrando geirîau y bywyd tragywyddol. Efe oedd y cyntaf a soniodd am gael y diweddar Barchedig* D. Jones o Dreffynnon i bregethu gyntaf 1 Resycae, er nad oedd y pryd hwn yn proffesu crefydd. Yr oedd Mr. P. yrt dra ŵelog pan gafwyd pregethu yn Rhesyeae, a chyn hir ymwasgodd at yr ychydig ddy«- cyblion oedd yno. Aeth amryw weitbiau at y drws heb fyned i mewn; ond yn fuan aeth i'w plith. Yr oedd o gylch 30 mlwydd oed pan aeth i broffesu crefydd. Derbyn- iwyd ef yn Nhreffynnon eyn i'r eglwys yn Rhesycae gael ei ffurfio. Bu yn byw yn Rhesycae 23 o flynyddoedd wedi dyfod at grefydd, a thrwy ystod yr amser hwnw bu yn dra ffyddlawn gyda'r achos, a'i dŷ yn wastadol yn agored i dderbyn gweinidogion y gair i gael ymborth, a dangosai bob amser yr hyfrydwch mwyaf i wneyd hyny; ac nid yn unigrhoi bwyd yr ydoedd, ond arian hefyd at achos Crist. Cydweithiwr iddo (yr hwn oedd y prydhwnw yn dragelyniaethol i grefydd, ond y mae yn awr yn aelod ffyddlawn gyda'r Trefnyddion Calfinaidd) wrth ei weled yn gweithio mor ddiwyd a líafurus, a ofynodd iddo pa fodd yr ydoedd mor ffol ag ymdrechu cymmaint am arian i'w rhoi i'r bobl yna, sef proffeswyr, na chai byth ddim o honynt yn ol. Atebodd Mr. P. " A ydych chwi ddim yn ystyried mai yr Arglwydd sydd yn rhoddi pob peth i ni, ac oni bae ei fod ef yn eu bendithio, yr aent i ffwrdd na wyddem i ba le?" Daugosai awydd mawram fyned i foddion gras, a byddai yn foddlawn i weithio tair awr yn hŵy i'w gydweithiwr er mwyn cael myned. Byddai yn feunyddiol yn cynghori ei gydweithiwr i fyned i'r Ysgol Sabbothol, yr hwn sydd gyda mi pan yn ysgrifenu yrhanes hwn, a thystiolaetha fod ei gynghorion wedi bod o les mawr. Yr oedd ei glod yn fawr fel athraw y plant bach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn wastadol yn selog iawn drotti, ac yn ffyddlawn iawa