Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsgedpda "AV hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd—95.1 TACHWEBD, 1910. [Hen Gyf.—591. Y CRIST MEWNOL. GAN Y PARCH. R. E. PEREGRINE,. B.D., RYMNEY. " Yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogondant."—Col. i. 27. (ERTHYNAS iawn â Iesu Grist yw bywyd ein crefydd bersonol ni. Sonir weithiau yn y Testament Newydd am Grist trosom: " Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da." " Ác efe yw yr iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd," " Canys ni ddaeth Mab y dyn i'ŵ wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer." Sonir hefyd am y credadyn yn Nghrist: " Eithr yr ydych chwi o hono ef yn Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoeth- ineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddnvydd, ac yn brynedigaeth." " Ni'd oes gan hyny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." " Mi a adwaenwn ddyn yn Nghrist er ys rhagor i bedair blyn- edd ar ddeg." Ond yma, ac mewn manau eraill, fe sonir am Iesu Grist yn y credadyn. Y mae'r ymadrodd yn awgrymu fod yna berthynas neu undeb agos a neillduol rhwng y Gwaredwr â'r credadyn. Mewn rhyw ystyr y mae yna undeb rhwng Iesu Grist â phob dyn yn mhob man. Y mae yr undeb hwn yn bod yn annibynol ar gymeriad moesol a chrefyddol. Gosodir ef allan mewn modd tarawiadol gan yr ymadrodd, " Mab y 'dyn." Y mae yna undeb natur gorphorol, a natur feddyliol, a natur foesol felly. Yr un yw defnydd corph a meddwl a chydwybod yn nynoliaeth pob dyn, ag oedd yn nynoliaeth yr Arglwydd Iesu Grist. " Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd." Yr oedd yn gnawd o'n cnawd ni, ac yn asgwrn o'n hesgyrn ni:—" Gan fod y plant yn gyfranogion ■o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd, a fu gyfranog o'r un i>ethau." 1g