Skip to main content

y Dpsaedpdd: "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedj ei Uno." Cyf. Newydd—91.] GORPHENAF, 1910. (Hen. Gyf.—587. DYN A DAFAD. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. " Pa faint gwett gan hyny ydyw dyn na dafad?"—Math. xii. 12. tíWE^m-ì^' ráy^wyd y cwestiwn tarawiadol hwn gan ein Harglwydd lifiÊÌSl *'w ^y™011 maleisus mewn hunan-amddiffyniad i'w waith yn iachau llaw wywedig dyn ar y Sabbath. Ystyriai y Phariseaid fod yn iawn codi dafad ddiniwed o'r ffos ar y Sabbath, er nas gellid gwneud hyny heb • egni a Uafur ; ond yr oedd efe yn gallu iachau dynion â gair ei enau yn unig, heb unrhyw lafur nac ymdrech; ac y mae iechyd dyn yn sicr yn fwy pwysig na bywyd anifail; canys " pa faint gwell yw dyn na dafad?" Rhagoriaeth dyn ar anifail sydd yma. Ond eto nid ydyw yn rhagori ar yr anifail yn mhob peth; eithr y mae yn is na'r anifail mewn rhai pethau—yn gydradd â'r anifail mewn pethau eraill—ac yn uwch na'r anifail drachefn mewn pethau eraill. Gadewch i ni daflu cipdrem frys- iog ar y pethau yma:— I. Dyn yn is na'r anifail. 1. Mae yn is na'r anifail mewn gallu corỳhorol. Mae yn llawer mwy diymadferth na'r rhan fwyaf o'r creaduriaid direswm ar ei ddyfodiad i'r byd. Cymharer y baban bach â'r oen bach. Mae y cawrfil yn gryfach, a'r march a'r ewig yn gyflymach, na dyn; ac y mae yr aderyn yn gallu ehedeg yn gyflym trwy yr awyr; tra y mae dyn yn gorfod ymlwybro yn flinderog ar hyd y ddaear. Mae y defaid yn gallu byw allan yn nghanol ystormydd a thymhestloedd oerion a gerwin y gauaf; ond rhaid i ddyn gael rhyw fath o gysgod a diddosrwydd. Mae dyn yn fwy dibynol ar y creaduriaid direswm hefyd nag ydynt hwy arno ef. 2. Mae yn is na'r anifail yn aml yn y gofal a ddangosir am dano gan *i gyd-ddynion. Ewch i ystablau y pendefig. Mor lân ydynt, ac mor