Skip to main content

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd—90.3 MEHEFIN, 1910. [Hen. Gyf.—586. MARWOLAETH Y BRENIN. GAN O. E. (ARAWYD yr holl wlad â syndod syfrdanol bore ddydd Sadwrn, Mai 7fed, gan y newydd galarus fod y brenin wedi marw ý nos flaenorol! Disgynodd y newydd tríst ar y wlad a'r deyrnas fel taranfollt o ganol awyr lâs, lachar a digwmwl, gan mor annysgwyliadwy y daeth. Gwyddid nad oedd ei Fawrhydi yn iach er's deuddydd neu dri; ond nid ydoedd wedi ei gyfyngu i'w wely; ac mor awyddus ydoedd am wneud ei waith fel y cododd y bore olaf y bu byw, ac y bu am ysbaid gyda'i ysgrifenydd Arglwydd Knollys, yn cyflawni ei ddyledswyddau pwysig; gwir i'r meddygonddweyd ynhwyr y prydnawn hwnw, fod ei afiechyd yn bur ddifrifol, ac yn peri pryder; ond ni ddychmygodd y cyhoedd, er hyny, fod y diwedd mor agos. Mae yr Arglwydd trwy yr amgylchiad difrifol, yn ein rhybuddio fel gwlad, mewn lìais uchel a chyffrous, o freuolder ac ansicrwydd bywyd, a'r dirfawr bwys, gan hyny, o fod bob amser yn barod. Bu Edward VII. yn un o'r brenhinoedd goreu a fu ar orsedd Prydain erioed. Enillodd iddo ei hun nid yn unig barch ac edmygedd uwchaf ei ddeiliaid; ond gwnaeth iddo ei hun hefyd le dwfn yn eu serchiadau; fel yr oedd yn cael ei fawr hoffi ganddynt; a bu ei deyrnasiad am y naw mlynedd y bu ar yr orsedd, yn un llwyddianus iawn. Nis gellir dweyd ei fod yn dd^ni o dalentau dysglaer ac uwchraddol; ond yr oedd }m fedd- ianol ar ddynoliaeth gyfoethog ac ardderchog; canys yr oedd jm ddjrn o bersonoliaeth gref, urddasol, ac enillgar; yn ddyn o syn\vyr cryf, jrr hyn a'i galluogai i ymddwyn yn bwyllog, a doeth, ym mhob amgylchiad dyrus; ac yn ddyn o galon dyner a charedig, yr hyn a barai iddo gyd- ymdeimlo â'r tlawd a'r trallodus, a dymuno Ues a Uwyddiant pawb, fel mai priodol y gallai y brenin presenol ddweyd, fod ei dad yn ffrind i'r holl fyd. Nid oedd teimladau da yn ffynu rhwng y wlad hon ag amryw wledydd eraill, ysywaeth, pan esgynodd i'r orsedd; ond yr