Skip to main content

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Nrwydd—89.] MAI, 1910. [Hen. Gyf.—585. Y PARCH C SILYESTER HORNE, M.A., A.S. MAE yn hyfrydwch o'r mwyaf genym gyflwyno i ddarllenwyr y Dysgedydd gyda y rhifyn hwn ddarlun mor ragorol o'r Parch. C. Silvester Horne, cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru am y flwyddyn hon. Y mae Mr. Horne yn un o'r dynion mwyâf ámlwg yn y Pwlpud Seisnig heddyw, ac ỳn un y teimür yn falch iawn o hono yn arbenig gan ei Enwad ei hun. Ganwyd ef bum mlynedd a deugain yn ol mewn lle o'r enw Clickfield, yn Sussex, lle yr oedd ei dad ar y pryd yn weinidog. Er yn fachgen bychan, dangosodd dueddfryd cryf at fod yn bregetkwr, ac yr oedd wedi traddodi ei bregeth gyntaf cyn ei fod yn un-ar-bymtheg oed. Yr oedd hyny mewn pentref bychan heb fod yn mhell o Newport, Sir Amwythig, y dref lle yr oedd ei dad newydd symud i fyw ynddi. Yn fuan aeth i Brifysgol Glasgow lle y graddiodd gydag anrhydedd. Oddiyno aeth i Goleg Mansfield, Rhydychain, i ddilyn ei gwrs mewn Duwinyddiaeth. Yr oedd yn un o'r to cyntaf o fyfyrwyr y sefydliad hwnw, a theimlai y Prifathraw Dr. Fairbairn y dyddordeb mwyaf ynddo. Yn ystod y tymhor hwn dechreuodd ei glod ymledu trwy yr eglwysi fel pregethwr hynod o addawol. Cyn terfyn ei dymhor cafodd ülwadau o amryw eglwysi, ac yn eu mysg eglwys enwog Kensington, Llundain, hen faes gweinidogaeth Dr. Raleigh. Penderfynodd dderbyn yr alwad hono, ac arhosodd yr eglwys lawn blwyddyn wrtho hyd nes y gorphenai ei yrfa yn y Coleg. Llafuriodd yn y cylch pwysig hwn am dair blynedd ar ddeg gyda llwyddiant mawr. Yn y cyf amser dringodd i fyny yrtgyflym fel un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y deyrnas, ac fel siaradwr ar y llw>^fan yn ogystal. Saith mlynedd yn ol daeth i'r penderfyniad i roddi yr eglwys i fyny er mwyn ymgymeryd â'r genhadaeth yn nghapel Whitfield, ac os ydoedd yn llwyddianus yn ei faes cyntaf, y mae wedi bod yn Uawer mwy felly yn ei gylch presenol, er nas gellir meddwl am ddau gylch mwy gwahanol