Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsôedpdd "AV hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydi>--87.] MAWBTH, 1910. [Hen. Gyf.—583. LLAWENYDD Y'NGWYDD ANGELION DUW. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, B.D. " Felly, meddaf i chwi, y mae llawenyddy'ngwydd angelion Duw am un ỳechadur aedifarhao." Lue xv. 10, lefarwyd y geiriau tarawiadol hyn gan ein Harglwydd mewn hunan-amddiffyniad, y'ngwyneb grwgnachrwydd disail ac afresymol yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn ei erbyn oherwydd ei fod yn cymdeithasu â phersonau a ystyrid yn rhai o gymeriadau isel a gwaradwyddus. Haerent yn faleis- us ei fod trwy hyny yn rhoddi cefnogaeth i ddynion Uygredig i fyw yn eu pechodau. Ond yr oedd efe yn ymgymysgu â chymeriadau o'r fath nid am ei fod yn edrych yn ysgafn ar eu pechodau, ond am ei fod yn caru eu heneichau, ac yn dymuno eu gwaredu oddiwrth eu pechodau. Pa le y dysgwyhr cael y meddyg? Nid yn ymbleseru yn y parlyrau a'r dawnsiau, ond wrth welyau y cleifion; a hyny nid am ei fod yn hom ymdroi ym mysg cleifìon a heintiau, ond am mai ym mhlith y cleifion y mae mwyaf o angen am dano; a'r rhai sydd dan y clefydau trymaf sydd yn galw am ei sylw blaenaf. Ar yr un egwyddor yn hollol yr oedd ein Harglwydd yn cymdeithasu cymaint â phubhcanod a phechaduriaid; ac yn y tair dameg brydferth sydd yn y bennod hon y mae yn dangos fod edifeirwch un o'r cyfryw gymeriadau yn cynyrchu Uawenydd mawr ym mysg teulu y nef, ac fel hyn y mae yn dangos i'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a rwgnachent yn ei erbyn, mor anhebyg oeddynt hwy o ran eu hanian a'u hysbryd i drigoUon sanctaidd nef y nef. Yn y ddameg i ba un y mae y testun yn ddiweddglo, y mae ein Harglwydd yn cyffelybu pechadur, yn ei gyflwr annychweledig, i ddarn arian colledig. Yn briodol y darlunir dyn fel darn arian. Gellir dweydmai darn o alcan yw yr anifail; ac mai darn aur yw yr angel.